BBC HomeExplore the BBC

IAU
31ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Wylan
Gwalch y Pysgod - RSPB Ymwelydd prin i fro Yr Wylan
Gorffennaf 2004
Fel y gŵyr trigolion yr ardal bellach, mae hi wedi bod yn gyfnod cyffrous a thrist i adaryddion a naturiaethwyr yr ardal, Cymru gyfan a thu hwnt yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Daeth newyddiadurwyr papurau newydd, timau ffilmio a channoedd o ymwelwyr a thrigolion lleol i Lanfrothen ar ôl i'r newyddion da gael ei gyhoeddi gan Gerallt Pennant ar ei raglen Galwad Cynnar ar Radio Cymru ar Orffennaf 3.

Gwrthrych y diddordeb mawr yn yr ardal oedd pâr o Weilch y Pysgod (Ospreys) a oedd wedi nythu ger Nantmor - y tro cyntaf erioed i'r rhywogaeth nythu yng Nghymru. Gallwn ymfalchïo mai yn nalgylch Yr Wylan y digwyddodd hynny.

Mae hyd at 160 o barau o Weilch y Pysgod yn nythu yn yr Alban a llond llaw bellach yn Lloegr. Adar oddeutu maint Boncath ydynt sydd yn byw ar bysgod ac yn plymio i'r dŵr o uchder ar ôl eu bwyd. Mae gan yr aderyn le arbennig yn fy nghalon. Er fy mod wedi bod yn edrych arno'n pysgota ar y Glaslyn ers dwsin o flynyddoedd bellach, mae o'n dal yn un o'r ychydig o adar sydd yn fy ngwefreiddio bob tro y byddaf yn ei weld.

Ers 1992 rwyf wedi bod yn ei gofnodi'n flynyddol yn mynd heibio i'r gogledd tua'r Alban yn y gwanwyn ac yna i'r de tua'r Affrig yn yr hydref. Ond ers 2002 sylwais fod Gwalch y Pysgod i'w weld o gwmpas y Glaslyn hefyd drwy gydol yr haf. Bu adaryddion yn pendroni ers blynyddoedd paham nad oedd Gwalch y Pysgod yn nythu yma'n Nghymru, yn enwedig o ystyried bod safleoedd addas a chynefin tebyg i'r mannau nythu yn yr Alban yn bodoli yn ein gwlad hefyd.

Yn ystod haf 2002 a 2003 gwelais Walch y Pysgod yn cario pysgod o Forfa Harlech a thros y Cob ac i fyny'r dyffryn tua Nantmor. Mae hynny'n bellter o hyd at chwe milltir - pellter anhygoel i gario pysgodyn trwm, yn enwedig os oedd mannau agosach i'w fwyta. Toedd siwrnai o'r fath ond yn golygu un peth i mi - mai yma yn nyffryn y Glaslyn oedd neu fuasai safle nythu cyntaf y rhywogaeth yng Nghymru.

Eleni eto daeth y Gwalch yn ôl i'n hardal gyda'r cofnod cyntaf yn ystod dechrau mis Ebrill. Gwelais iâr a cheiliog yn hedfan dros y Cob ddiwedd y mis ac roedd hi'n edrych yn addawol bod y rhywogaeth yn nythu rhywle yn Nyffryn Madog.

Ar Fai 18, daeth y newyddion anghredadwy bod y nyth wedi ei ddarganfod ar ben coeden fythwyrdd dros 70 troedfedd ar dir Ynysfor, ger Llanfrothen. Aeth yr anrhydedd o ddarganfod y nyth i Steve Watson o Nantmor ac yn eironig dyma'r tro cyntaf erioed iddo weld Gwalch y Pysgod.

Ond roedd darganfod y nyth yn creu anhawster mawr. Oherwydd y bygythiad gan gasglwyr wyau rhaid oedd cadw'r newyddion yn gyfrinachol hyd nes i'r wyau ddeor. Rhaid oedd hefyd ymgasglu tîm o wirfoddolwyr ac arbenigwyr i warchod y nyth trwy gydol y dydd a'r nos. Gwnaethpwyd hynny trwy gymorth Kelvin Jones o Heddlu Gogledd Cymru, a bu ymdrech y degau o bobl a gynorthwyodd yn llwyddiant gan i ddau o'r wyau ddeor rai wythnosau yn ôl.

Ond fe drodd y freuddwyd yn hunllef. Yn anffodus disgynnodd rhan o'r nyth yn ystod tywydd garw ar ddydd Mercher, Mehefin 30 ac o ganlyniad darganfuwyd cyrff y ddau gyw ifanc o dan y goeden y diwrnod canlynol.

Roeddwn yn digwydd bod ar y safle ddiwrnod y trychineb a theg yw dweud bod wynebau hir gan bawb pan sylweddolwyd fod y cywion wedi marw. Mae natur yn gallu bod yn greulon ar adegau. Ni allwn bellach wneud dim ond meddwl am y dyfodol a pharatoi at y flwyddyn nesa'. Mae'n galonogol gweld fod y ddau oedolyn yn dal yn yr ardal yn gwarchod eu tiriogaeth ac yn ailadeiladu'r nyth.

Er ei bod hi'n rhy hwyr i ail-ddodwy y flwyddyn yma, credir y bydd yr oedolion yn aros yn y cyffiniau hyd at ganol neu ddiwedd mis Awst cyn dychwelyd yn ôl i'r Affrig am y gaeaf.

Bellach mae RSPB Cymru wedi creu safle gwylio ger Pont Croesor (SH 594414) lle bydd aelodau o staff a gwirfoddolwyr yn bresennol bob dydd rhwng 10 y bore a 5 y pnawn i ateb eich cwestiynau. Mae maes parcio am ddim yma, ond gellir gwneud cyfraniad ariannol i'r gymdeithas pe dymunwch. Buaswn yn pwysleisio i aelodau o'r cyhoedd ddefnyddio'r safle yma i wylio'r adar. Er ei fod yn bell o'r nyth buasai mynd yn rhy agos i'r safle yn amharu'n ormodol ar y Gweilch ac efallai yn eu hel o'r safle nythu. Efallai y bydd yn rhaid i chi aros awr neu ddwy rai diwrnodau cyn gweld y Gweilch, ond gallaf eich sicrhau ei fod yn werth pob eiliad. Edrychwch amdanynt o gwmpas y Cob a Morfa Harlech hefyd yn ystod yr wythnosau nesaf. Nid oes amheuaeth gennyf y bydd y Gweilch yn ôl yn yr ardal y gwanwyn nesaf ac yn denu miloedd o ymwelwyr i'r gweld. Edrychwn ymlaen at hynny.

Elfyn Lewis

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy