BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
16eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Wylan
Ymddiriedolwyr Rebecca, Dewi Lewis, Bryan Rees Jones, Morris Jones, Maldwyn Lewis a Susan Owen yn cyflwyno llechen ac arni restr o'r tollau allan o Ddeddf 1807 i Sue Essex. Llun gan Arwyn Roberts Am y tro cyntaf hanes dileu'r doll yn llawn
Ebrill 2003
Erbyn 1970 perchnogion Ystad Tremadog oedd ewythr y Dywysoges Diana, sef yr Arglwydd Fermoy, ei chwaer Mary Geoghan a mam Diana Mrs Shand-Kydd.
Yn 1971 bu un o'r brwydrau mwyaf cyffrous yn hanes Porthmadog. Ceisiodd yr Ystad gael yr hawl i reoli Harbwr Porthmadog. Perswadiodd pump o'r aelodau Gyngor y Port i alw Cyfarfod Cyhoeddus i herio'r Ystad. Yn y cyfarfod haerodd un siaradwr mai Gwaed a chwys chwarelwyr 'Stiniog a dewrder morwyr Eifionydd fu'n cario'r llechi i bedwar ban byd a dalodd am yr Harbwr. Eu plant hwy biao fo.' Gorymdeithiodd cannoedd o bobol yr ardal drwy'r dref. Er i'r Ystad ennill y dydd yn y Ty Cyffredin fe gostiodd yn ddrud iddynt mewn costau cyfreithiol. Yn ddiweddarach cytunasant i werthu hawliau'r harbwr i Gyngor Dwyfor.

Yna cafwyd y syniad o herio eu hawl i godi tollau ar gerbydau a lorïau. Cafodd Madocks ganiatâd o dan ddeddf 1807 i godi toll ar goets fawr, gig, landau, ceffyl, trol, defaid a moch ayb, ond nid ar geir na lorïau gan nad oedd sôn amdanynt y pryd hwnnw.

Awgrymodd Mrs Valerie Wyn Williams (cyn-reolwr Theatr Harlech) i'w ffrind Mary Geoghan y buasai yn syniad da i Fermoy gwrdd â Maldwyn Lewis am sgwrs. Cytunodd yntau ar yr amod fod y cyfan yn gyfrinachol. Rhoddodd Dafydd Wigley AS fenthyg ei swyddfa yn y Ty Cyffredin i Fermoy a Maldwyn i gynnal cyfarfodydd a dechrau trafod.

Yn ystod y trafodaethau dywedodd yr Arglwydd Fermoy y buasai profi fod ganddynt hawl i godi ar geir ayb yn debygol o gostio cannoedd o filoedd o bunnau a'u bod wedi penderfynu gwerthu'r Cob, Cob Crwn a'r Dollborth. Dechreuwyd bargeinio. Yn y cyfamser gofynnodd Dafydd Wigley i Lywodraeth Lafur y dydd brynu'r eiddo. Gwrthodasant oherwydd bod y gost debygol tua £500,000.

Cytunodd Bryan Jones i ymuno â Maldwyn yn y trafodaethau. Cafodd y ddau gyfaill sgwrs gyda chynghorwyr eraill Plaid Cymru, sef Emlyn Jones a Dafydd Wyn Jones. Ar y dechrau roeddent hwy yn amau mai tynnu eu coes oedd y ddau arall ond rhoesant eu cefnogaeth frwdfrydig i'r syniad o brynu. Esboniodd y ddau gyfaill i'r Arglwydd Fermoy a'i chwaer Mary Geoghan eu bod yn bwriadu ar ôl prynu'r eiddo greu Elusen i rannu'r elw bob blwyddyn i gymdeithasau lleol.

Roedd Fermoy a'i chwaer yn amlwg yn hoffi'r syniad. Cytunwyd yn y diwedd ar bris o £45,000. Gwahoddodd Bryan a Maldwyn y diweddar Tudor Griffiths a Joseph Lewis atynt i greu Elusen fel y gellid rhannu'r elw blynyddol i gymdeithasau a mudiadau yn ardal Cynghorau Penrhyndeudraeth a Phorthmadog.

Galwyd yr Elusen yn Rebecca er cof am y dewrion gynt fu ar eu ceffylau ac yn gwisgo ffrogiau merched yn llosgi tollbyrth. Rhannwyd taflen i bob ty yn esbonio'r syniadau.

Yn 1983 ar ôl clirio'r ddyled cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Y Ganolfan i ofyn i'r cyhoedd a oeddynt eisiau dileu y doll ai peidio. Bu dadlau brwd ond penderfynwyd trwy fwyafrif sylweddol i gario ymlaen a pharhau i rannu arian yn flynyddol i gymdeithasau yr ardal. Ers 1978 rhannodd Ymddiriedolaeth Rebecca dros £170,000 i fudiadau lleol. Bu cynrychiolwyr Cynghorau Gwynedd, Penrhyndeudraeth a Phorthmadog yn ymuno â'r Ymddiriedolwyr i benderfynu pwy a dderbyniai roddion a'r swm. O'r dechrau yn 1978 bu'r Cynghorwyr Aled Ellis ac Islwyn Morris yn bresennol.

Ar ôl tair blynedd o drafod cynigodd y Cynulliad brynu'r Cob, Cob Crwn a'r hawl i godi tollau am gyfanswm o £220,000. Ers y cafodd y Cob ei ledu y mae yn beryclach i'r staff sefyll ynghanol y ffordd i hel yr arian. Oherwydd hefyd nas gellir codi mwy na 5c yr oedd yn mynd yn anoddach i gynhyrchu yr un elw bob blwyddyn. Derbyniodd Ymddiriedolwyr Rebecca gynnig y Cynulliad. Bydd gwaith yr Elusen yn parhau fel o'r blaen. Fe fuddsoddir yr arian a dderbyniwyd a rhannu'r incwm a gynhyrchir i gynnal mudiadau lleol. Dyma'r Elusen felly yn ysbryd Merched Rebecca wedi dileu Tollborth a hefyd llwyddo i gyfrannu at weithgarwch cymdeithasol yr ardal am flynyddoedd i ddod.

Hoffai'r Ymddiriedolwyr dalu teyrnged a diolch i Eirabeth a Richard fu'n gweithio ymhob tywydd ers yr holl flynyddoedd yn casglu tollau ac am wneud y gwaith yn frwdfrydig a chyda gwên bob amser. Diolch hefyd i Bryn, Elfyn, Hywel a'r holl rai fu'n gweithio yn y Cob ers 1978.

Dymuna Rebecca ddiolch i bawb a dalodd y tollau yn gydwybodol heb rwgnach er budd y gweithgarwch amrywiol yn ardal y Penrhyn a'r Port.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy