BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
6ed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Wylan
Owain gyda'i fedal ar ôl ennill yn Abertawe Nofiwr o fri
Chwefror 2005
Llongyfarchiadau i Owain Ellis Roberts ar ei lwyddiant yn y byd nofio.
Daeth Owain yn gyntaf yng nghystadleuaeth nofio yr Urdd ym Mangor mewn dwy ras ac aeth ymlaen i gynrychioli Rhanbarth Eryri yng Ngala Nofio Genedlaethol yr Urdd yn Abertawe.

Daeth yn seithfed yn y rownd derfynol 50m nofio cefn a thorrodd 5 eiliad o'i amser personol gorau gan orffen mewn 41.78 eiliad.

Mae Owain yn aelod o glybiau nofio Porthmadog, Eryri a Chaernarfon ac yn cystadlu'n rheolaidd gyda Chlwb Caernarfon. Enillodd chwe medal aur yng Ngala y Clwb ddiwedd y flwyddyn, a chael tlws am fod y nofiwr gorau yn ei oed (11 oed).

Bu yn Abertawe i'r Pwll Nofio Cenedlaethol fis Hydref diwethaf mewn cystadleuaeth nofio dan nawdd y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd ei ddewis am yr ail dro i dîm Gwynedd, 7 merch a 7 bachgen mewn ras gyfnewid yn erbyn 11 tîm trwy Gymru.

Daeth Gwynedd yn ail a cholli i Gaerdydd o 10 eiliad. Cafodd pawb o'r tîm fedal arian a chrys-T i gofio'r achlysur.

Rhaid wrth ymarfer rheolaidd i gadw ei hun yn ffit a bydd yn mynychu sesiwn ymarfer ddwy waith yr wythnos yng Nghlwb Nofio Caernarfon, a thair i bed air gwaith yr wythnos ym Mhorthmadog. Dalier ati Owain!

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy