BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Wylan
'Y Rhos' fel y mae heddiw Hen Bentref Minffordd
Chwefror 2003
Lle bach tawel yw hen bentref Minffordd heddiw, heblaw am Chwarel y Garth a'i thraffig. Ond bu unwaith yn le prysur a phwysig.

Roedd trigolion yr hen dai - Pen-y-graig, Glan-y-don, Graig a Rhos, oll yn cael bywoliaeth dda o'r Traeth Mawr, cartrefi oeddynt i'r pysgotwyr, y tywysydd, y cychwr ac i Swyddog y Tollau a oedd yn cadw llygad ar y smyglwyr. Bryd hynny roedd y briffordd o Lundain i Ogledd Cymru yn arwain ar draws y Traeth Bach, i lawr yr hen ffordd fawr i'r hen bentref ac ar draws y Traeth Mawr. Ym Minffordd yr oedd y brif groesfan.

Rhos yw'r hynaf o'r tai. Mae Syr John Wynn o Wydir yn cyfeirio at Ty'n y Rhos yn 1461 fel 'gwindy ym Mhenrhyndeudraeth'. Arferai perchnogion y plastai fewnforio llond llong o win ar y tro ond gan mai mewn costreli o groen anifeiliaid y cludid ef roedd yn suro yn gyflym. Felly gwerthent yr hyn oedd dros ben i'w hanghenion mewn gwindai ac yno y byddai'r bonheddwyr yn treulio eu hamser yn mwynhau eu hunain. Cwrw a yfai'r werin ac roedd hwnnw'n cael ei fragu yn y Bragdy gerllaw a'r soeg oedd yn weddill yn cael ei fwydo i'r moch a gedwid yn y cutiau ger y ty.

Roedd carreg ar fur y Bragdy ond diflannodd ac ni wyr neb heddiw beth oedd y dyddiad arni. Roedd y dafarn yn darparu llety i deithwyr i aros i'r llanw newid neu i'r tywydd wella er mwyn iddynt allu croesi'r pum milltir o dywod twyllodrus i Benmorfa, ar droed neu ar gefn ceffyl.

Roedd yn orchwyl peryglus iawn ac roedd llawer yn boddi. Roedd arwydd wedi ei hoelio ar goeden onnen gerllaw Rhos ac arno lun o farch gwyn a'r geiriau Guide to the Sands'. Cafwyd hyd i nifer o ddarnau arian yng ngwaelod yr ardd ger y groesfan - dau o gyfnod Elisabeth 1 a nifer o'r ddeunawfed ganrif - tâl i'r cychwr neu'r tywysydd.

Dywed John Wesley yn ei ddyddiaduron ei fod ef wedi mentro croesi heb dywysydd droeon ac iddo eistedd yn y dafarn yn cyfieithu rhyw lyfr i aros i'r llanw droi. Mae traddodiad hefyd bod Howell Harris wedi pregethu yn yr hen gegin a bod yr Hwntw Mawr, yntau wedi eistedd ar yr hen setl yn yfed ei beint olaf cyn cael ei gludo i'r carchar yn Nolgellau.

Roedd yna ddiwydiant adeiladu llongau prysur yn y pentref a bu'n rhaid cael 30 o ddynion i weithio am fisoedd yn torri ffos lydan i gael y Neptune, llong anferth 300 tunnell i'r dwr. Roedd y seiri llongau a'u teuluoedd yn byw mewn barics gyferbyn â Glan Don, mae'r ffordd fawr yn arwain ar draws y safle heddiw. Ar ôl codi'r Cob yn 1814 daeth newid graddol wrth i'r Traeth Mawr sychu.

Symudwyd y gwaith adeiladu llongau i dref newydd Porthmadog, ac erbyn 1834 darfu'r gwaith o fasnachu a chludo nwyddau mewn cychod ar hyd afon Glaslyn a symudwyd Swyddfa'r Tollau i Ben-y-cei ym Mhorthmadog. Tua'r un cyfnod caewyd y dafarn a daeth prysurdeb treflan fechan Minffordd i ben.

Nan Griffith


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy