BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
22ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Rhwyd
Marc Ebans yn dathlu sgorio gôl arall i Hotspur. Byd y bêl
Mai 2008
Wrth i'r tymor pêl-droed ddirwyn i ben mae'n deg dweud fod tymor 2007/08 wedi bod yn un digon cymysglyd i dimau ardal Y Rhwyd.
Mae Hotspur Caergybi, o dan oruchwyliaeth sylwgar a chraff Campbell Harrison wedi profi tymor cymharol lwyddiannus yng Nghynghrair Undebol y Gogledd. Er bod eu gobeithion prin o gipio'r ail safle yn y Gynghrair wedi dod i ben ers colli ym Mynydd Isaf yn gynharach yn y mis, fe all yr Harbourmen fod yn falch iawn o'u tymor.

Yn ogystal â gorffen ymysg y ceffylau blaen yn yr adran, llwyddodd y bechgyn i gyrraedd trydedd rownd Cwpan Cymru cyn colli yn erbyn Derwyddon Cefn o Uwchgynghrair Cymru.

Ac mae mwy o dystiolaeth fod y dyfodol yn ddisglair i'r Hotspur. Cafodd dau o'r garfan, Liam Shanahan a Marc Evans y fraint o gael eu dewis i dim dan 18 oed Ysgolion Cymru ar gyfer eu gemau yn erbyn Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.

Felly gyda charfan ifanc dalentog ac adnoddau bendigedig y stadiwm newydd, pwy a ŵyr pa bryd fydd tîm y dre yn efelychu Llangefni ac esgyn i Uwchgynghrair Cymru.

Draw ym Modedern roedd hi'n dra gwahanol. Wedi dechrau'r tymor gyda thîm yng Nghynghrair Undebol y Gogledd ac ail dîm yn chwarae eu tymor cyntaf yng Nghynghrair Gwynedd ar ôl sicrhau dyrchafiad o Gynghrair Môn, roedd pêl-droed i'w weld yn ffynnu yn y pentref.

Roedd Bodedern wedi brwydro'n galed iawn i gyrraedd safon Cynghrair y Gogledd gan arwyddo chwaraewyr lleol a gwrthod y demtasiwn o dalu arian mawr.

Ond yn anffodus, fe brofodd yr her yn ormod wrth i gyfuniad o anafiadau a diffyg arian orfodi'r Clwb i wneud penderfyniad anodd iawn ym mis Hydref - er mwyn lles y Clwb, roedd rhaid diddymu un o'u timau.

Gyda chalon drom iawn penderfynodd y Clwb mai'r peth gorau i'w wneud byddai canolbwyntio ar yr ail dim yng Nghynghrair Gwynedd a thynnu'r tîm cyntaf allan o'r Gynghrair Undebol.

Er ei fod yn benderfyniad anodd tu hwnt, ymddengys ei fod yn benderfyniad doeth wrth i dîm ifanc y pentref sefydlu eu hunain yng Nghynghrair Gwynedd a chyrraedd rownd derfynol Cwpan Gwynedd sy'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol.

Yng Nghynghrair Môn mae hi'n dyn iawn tua'r brig gyda phencampwyr y llynedd, Clwb Athletic Gwelfor Caergybi ar y brig ar wahaniaeth goliau yn unig wrth i'r Rhwyd gyrraedd y printars gyda Bro Goronwy'n dyn iawn ar eu sodlau. Ac efallai i chi gofio mi'n sôn am Glwb Pêl-droed Y Fali yn gynharach yn y tymor wrth i Glwb o'r pentref chwarae yng Nghynghrair Môn am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn. Wel mae'r Fali wedi cael tymor boddhaol iawn ac yn eistedd tua chanol yr adran ar ôl ennill cymaint ag y maen nhw wedi colli!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy