BBC HomeExplore the BBC

IAU
31ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Rhwyd
Arwyn, Gethin a Marc yn galw i mewn ym Mryngwran ar eu ffordd o Lundain i Gaergybi. Beicwyr dewr
Mai 2004
Roedd hen ddisgwyl yn y pentref pnawn Gwener, 16 Ebrill am dri o hogiau dewr.
Er mwyn codi pres at Eisteddfod yr Urdd sydd yn cael ei chynnal ar Ynys Môn dros gyfnod y Sulgwyn, penderfynodd y tri i reidio eu beics o Lundain i Gaergybi.

Y tri oedd Gethin Edwards, Arwyn Williams a Marc Gibbs. Y targed oedd cwblhau y siwrna mewn tri diwrnod ac yn wir i chi dyna beth a wnaethpwyd. Cyrraedd Bryngwran tua hanner awr wedi pedwar ar y trydydd diwrnod a tyrfa fawr yn eu disgwyl.

Roedd hwyl reit dda arnynt ond wir ar ôl gweld seti'r beics tybiaf y byddant yn dioddef yn ystod y dyddiau nesaf!!!

Diolch yn fawr i chi hogia am eich ymgyrch a rhoi hwb i gronfa'r Urdd Bryngwran a'r Cylch. Os oes rhywun yn dymuno cefnogi'r hogia ac sydd heb gyfrannu i'r gronfa galwch i mewn i Swyddfa'r Post Bryngwran.

Rhaid hefyd ddiolch i'r back up boys, Cwmni Beics Menai, am gael benthyg y beics ac hefyd y fan i gario bwyd a Vaseline!!!! Hefyd diolch i Aled a Keith a oedd yn trafeilio tu ôl iddynt yn y fan.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy