BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
19eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Rhwyd
Neuadd eglwys newydd y Santes Ffraid Agor neuadd newydd
Chwefror 2008
Bu rhaid cau Neuadd Eglwys y Santes Ffraid ym Mae Trearddur yn 2003 oherwydd rhesymau diogelwch gan fod yr adeilad wedi dirywio'n sylweddol dros y blynyddoedd.

Brwydr hir a chaled oedd codi'r arian at y gwaith, gyda'r gost yn codi fel aeth amser ymlaen, nes digaloni rhai a feddyliai na fyddai yna byth ddigon i gwblhau'r gwaith.

Penderfynwyd dechrau ar y gwaith ac ymgymerodd Mr Hywel Manley-Williams, aelod a gwr un o'r Wardeniaid, y cyfrifoldeb o arolygu'r gwaith a chael nifer o gontractwyr lleol i wneud y gwahanol rannau, a gwneud llawer o'r gwaith ei hun.

Fe arbedwyd rhai miloedd o bunnoed wrth wneud hyn, ac fel gwelai pobl y gwaith yn mynd ymlaen roedd yn haws ganddynt gyfrannu at gwblhau'r gwaith.

Agorwyd yn swyddogol ar 7 Rhagfyr 2007 gyda gwasanaeth yn yr eglwys yng ngofal y Rheithor, y Barchedig Ganon Christine Llewelyn, yna i'r Neuadd i'r agoriad gyda gwledd wedi ei pharatoi.

Diolch i bawb am eu haelioni a'r rhai fu'n gweithio mor ddyfal yn enwedig y Barchedig Ganon Christine Llewelyn, Hywel a Brenda Manley-Williams, Geoff a Meg Davies a George a Mair Lees.
Eric Wyn Owen.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy