BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Rhwyd
Pentref Caergeiliog (llun Gordon Owen, Caergeiliog) Caergeiliog a'r fro 1879
Gorffennaf 2009
Erbyn chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd cylchwyliau'r gwahanol enwadau crefyddol yn mynd o nerth i nerth.

Cylchwyliau fel un Ysgol Sul y Methodistiaid yng Nghaergeiliog a gynhaliwyd ddydd Llun y Pasg dan lywyddiaeth Mr Owen Lloyd, Treflesg.

Aelod o deulu 'Llwydiaid', Llanfair-yn-Neubwll oedd ef, un o deuluoedd mwyaf diwylliedig a blaenllaw y plwyf.

Beirniaid y cyfarfod oedd William Thomas, o Dyr Gwehydd, Caergeiliog; Mr Griffith Owen, Bodowyr; Mr Griffith Hughes (yr ieuengaf), Y Siop a Cherrig-baban wedyn (bu farw Griffith Hughes yr hynaf y flwyddyn hon); William Morris, Fferm Ty Mawr a Mr W. Parry, Postfeistr, Y Fali.

Ymhlith y cystadleuwyr a wobrwywyd yr oedd Mr O. Edwards, Sybylltir; Mr E. R. Owen, Ty'n Llan; Mrs E. G. Ffoulks, Cerrig-baban; Mr H. Owen, Thomas a William Owen, . Fferm Penmynydd; Mr W. Roberts, Tafarn-y-cwch; Mr W. Henry Owen, Y Siop a'i chwaer Lizzie Owen, hithau'n gantores swynol, meddir, hefyd E. Jones, Cae'r Pwll ac eraill.

Yn absenoldeb Mr Robert Pierce (1795-1881), Cruglas, sef taid i'r henadur R. O. Pierce U.H.,daeth J.L. Pierce yno i gyflwyno gwobrau. Cafwyd anerchiad i gloi gan y Parchedig W. Jones, Ty'n-y-maen.

Bu'r fro hon yn ffodus o gael teulu ymroddgar o wahanol enwadau crefyddol o dri phlwyf gwahanol i gynnal cyfarfodydd llenyddol a chystadleuol, sef pobl o blwyfi Bodedern, Llanfihangel-yn-Nhywyn, a Llanfair-yn-Neubwll, yn eu plith teuluoedd Ysgubor Bach, Llain Wen, Hen Blas, Tŷ Llychyn (G. Hughes), Ty'n Llan, Ty'n Rhos, Penrhyn (W. Owen), Tŷ Capel, Y Siop Gwaelod Bach (R. Jones), Cae Barcdy (H Jones), Cefn Llesg (W. Parry), Tŷ Gwrtheyrn ( H. Owen), Tŷ'n y Merddyn (Thomas Williams), Sybylltir, Henblas, Glan Llyn, Treflesg a theuloedd nobl eraill.

Codwyd o leiaf bum meddyg yng Nghaergeiliog a'r fro sef Dr William Jones, Tŷ'n y Merddyn a drigai am gyfnod yn Rhod-y-gaer, Caergybi, hefyd Dr Hughes o Dinam Bach a ymsefydlodd yn Amlwch.

Penodwyd y naill yn fedd: gwaith copr ar Fynydd Parys, a chwarelau Dinorwig, Arfon yn ddiweddarach.

A dyna Dr Owen Hughes, nai i'r Dr Jones, Ty'n y Merddyn a fu farw 21 Mawrth 1859 yn 39 oed, a'i frawd Dr Evan Hughes a fu farw 18 Awst 1868' yn 36 oed, dau arall o Ddinam Bach.

Hefyd Dr John Hughes Lloyd, Treflesg a fu'n feddyg ym Modedern i ddechrau a wedyn yn Llangefni hyd ei farw 14 Chwefror 1878 64 oed.

Meddyg oedd ail fab Henry Owen, Y Siop, Caergeiliog, sef Dr John Henry Owen a aeth i gynorthwyo Dr Thomas Hughes yn Llanberis. Bu ef farw ar 27 Awst 1896 yn 36 oed.

Ac yng Nglan Llyn, Llanfihangel y ganed John Jones (o Dreflvn, Gwalchmai yn ddiweddarach), meddyg Gwarcheidwaid Y Fali am flynyddoedd. Bu farw 13 Tachwedd 1928 yn 68 oed.

Yn ail hanner y ganrif dan sylw mae'n debyg for y rhamant am arwres ardal y llynnoedd yn draddodiad llafar byw yn y cylch, o Gaergeiliog hyd at blwyf Maelog a'r cyffiniau.

Ymddiddori yn y traddodiad hwnnw a roddodd ddeunydd i W. D. Owen lunio ei nofel boblogaidd Madam Wen a gyhoeddwyd yn 1925.

Dr Meirion Llewelyn Williams


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy