BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
6ed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Rhwyd
Rhai o'r pererinion yng Nghapel John Hughes O Fôn i Faldwyn
Gorffennaf 2006
Ar fore Sadwrn, 27 Mai digon diolwg, casglwyd dros ddeg a thrigain o bererinion o ben draw Sir Fôn am drip i Ddolwar fach. Llanwyd y ddau fws ac ymaith a ni.

Roedd sawl proffwyd tywydd ym mhlith y pererinion yn darogan hindda cyn y byddem ym Mhorthmadog. Roedd rhai wedi gweld rhyw dinau Gwyddelod rhwng y cymylau.

Fodd bynnag, cawsom orlif o law ym Mhorthmadog ond chwalodd y pererinion.

Aeth llawer i Westy'r Wylan ym Mhorthmadog i fwynhau brecwast mawr, mawr. Golygfa nas anghofiaf oedd gweld y saim yn diferru oddi ar weflau'r pererinion.

Wedi dringo i Ddinas Mawddwy anelwyd ni am Bont Robert ac i Gapel John Hughes.

Ef a Ruth Evans, ei briod a ddiogelodd i'r genedl emynau a llythyrau Ann Griffiths - mae'n anodd meddwl am amgenach cymwynas yn wir.

Gwahoddwyd ni i hen gapel ym Mhont Robert gan Nia Rhosier sy'n Guradwraig yr Amgueddfa yno. Rhoes sgwrs i ni ar hanes y capel a'r rhai a fu'n gysylltiedig a'r lle.

Cyfeiriodd Nia at y drws bychan yn nhalcen yr hen gapel. Pan oedd John Hughes yn rhy wael i godi fe ddeuid a'i wely at y drws bach agored fel y gallai bregethu i'r bobl. Mae neges yn fana'n siŵr gen i!!

Cyflwynodd Emlyn Richards lun gopi o Drwydded Bregethu Dolwar fach yn 1803 rhyw ddwy flynedd cyn marw Ann Griffiths.

Canwyd un o emynau John Hughes cyn gadael yr hen gapel - 'O anfon di yr Ysbryd Glan' - emyn a pheth o staen y diwygiad arn.

Daeth Iona o Engedi at yr organ ac er na fu'n eistedd wrthi o'r blaen fe'i handlodd hi'n wych. Rhoes Emlyn Roberts o Landdeusant arweiniad i'r canu. Rhoes Arthur Roberts ddwys weddi cyn gadael.

Gadawsom Bont Robert am Ddolanog a llenwi Capel Coffa Ann Griffiths. Yn rhyfedd iawn fu yma fawr o gof a chofnod am farwolaeth Ann Griffiths am drigain mlynedd wedi ei marw.

Ym mis Awst 1864 caed cyfarfod i ddadorchuddio cofgolofn hardd iddi ym Mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa.

Cawsom un o emynau mwyaf poblogaidd Ann Griffiths yn Nalanog - 'Wele'n sefyll rhwng y Myrtwydd'. Cyhoeddwyd y fendith gan Dafydd Parry, Ynys Bach.

Ar ein ffordd adref bu i ni bicio i fuarth Dolwar bach yn y pant o sŵn ac o olwg y byd - lle iawn i'r diwygiad Methodistiaid gydio.

Aeth y ddau fws dros y Berwyn ac i'r Bala. Pe bae'r afradlon wedi dod adra fyddai yna ddim gwell darpariaeth. Ar fy ngwir roedd hi fel cinio dyrnu hen ffasiwn. Daethom adra'n ddihangol a di-anaf.

Tyda ni'n ddyledus i Cledwyn y fath amynedd a'r fath ofal ac yn enjoio - diolch yn fawr Cledwyn a'r un diolch i Huw ac i Gwynfor - wedi'r cwbl Gwynfor pia'r bws.

Wrth ddarllen hyn o lith gobeithio y bydd amryw ohonoch yn eidfar na fuasech wedi dod efo ni - wel dwad y tro nesaf.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy