BBC HomeExplore the BBC

SUL
20fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Rhwyd
Eglwys Mechell Yn eu Gynau Gwynion
Gorffennaf 2003
Bu Eglwys Mechell dan gylch o sgaffaldiau yn ddiweddar, does wiw dringo yr oes yma heb sgaffaldiau i'n cynnal a'n cadw.
Yr oedd hi'n anodd iawn i greadur busneslyd fel y fi ffeindio beth oedd yn digwydd yno gan y goedwig alwminaidd.

Ond nid rhywbeth a berthyn i'n hoes ni ydi'r rhain. Fe gofnoda William Bwcle yn ei Ddyddiadur am 6 Mehefin, 1737 - Today Henry Jones of Bwlch erected scaffolds about the steeple of Llanvechell, in order to raise and repair the cupola and point that and the Tower.

Does dim newydd dan y sêr! Ar wahân i godi a thrwsio'r gromen fe fanteisiwyd ar y cyfle i bwyntio'r twr.

Dyma air diddorol yw pwintio ac iddo amryw ystyron. Mi fydda nain yn arfer dweud, "Mi fydd raid imi gael bagiad o 'Indian Meal' i bwyntio mochyn".

Yr un gair yn hollol a'r ferf gan William Bwcle to point, a olyga llenwi tyllau rhwng y cerrig. Yn Llyn ac Eifionydd yn unig y defnyddir y gair i olygu rhoi cig rhwng esgyrn.

Mi sonia Elin Griffith, Bronllwyd am bwyntio gwydda cyn 'Dolig efo moron a cheirch.

Sylwer eto, ar 8 Mehefin 1737 fe gofnoda William Bwcle - Today the New Vane or Weather Cock was set up on Llanfechell Spire... Yr oedd Ceiliog y Gwynt yn bwysig iawn yn y ddeunawfed ganrif. Fe gyfnoda Bwcle gyfeiriad y gwynt yn ddyddiol. Doedd Michael Fish na Siân Lloyd wedi'u geni bryd hynny!

Pan ddiflannodd y sgaffaldiau tua'r Glanmai fe ymddangosodd Llan-Mechell yn ei gynau gwynion. Clywais sôn am wyngalchu beddau a chofiais am dyddynwyr llethrau Mynydd y Rhiw yn Llyn yn gwyngalchu bythynnod yn rhan o ben-blwydd y cythraul Spring Clean. Cofiwn fod gwyn-galchu yn orchwyl blynyddol!

Emlyn Richards


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy