BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Pentan
Mwynhau paned Diwrnod o ddiolchgarwch
Tachwedd 2005
Yn ystod y flwyddyn diwethaf yr ydym, fel dinasyddion byd wedi gorfod wynebu trychinebau na welodd dyn mohonynt o'r blaen o fewn cof ein dyddiau ni.
Yn nes adref yr ydym yn darllen am drais, llofruddiaethau, damweiniau angheuol, gorddibyniaeth ar alcohol a chyffuriau, llacrwydd moesol sy'n arwain at dorcalon, ac weithiau, yn anffodus, afiechydon heintus. Y mae straen ac iselder ysbryd yn glefyd ein hoes a phen draw y cyflwr yma ydyw hunanladdiad. Ynghlwm a hyn clywn am sefydliadau pwysig yn ein cymdeithas yn methu oherwydd diffyg arian. Cronfeydd ysgolion, prifysgolion, ysbytai, meddygfeydd a sefydliadau diwylliannol yn mynd yn hysb, a chymdeithas yn cael ei amddifadu o wasanaethau angenrheidiol.

Er ceisio codi arian i gefnogi cronfa fregus yr Eisteddfod Genedlaethol trefnwyd diwrnod i ddathlu Gŵyl Dewi yma yn Henryd. Cafwyd paned yn y bore, yna bu'r plant ysgol yn rhoi gwasanaeth Gŵyl Dewi yn y Capel (Capel yr Annibynwyr), ac wedyn, cafwyd cyfarfod agored pryd y rhoed cyfle i pwy bynnag arall oedd eisiau darllen ei hoff ddarlleniad o'r Beibl. Daeth Mr Dennis Davies, Curadur 19 Mawr Wybrnant i fwynhau cinio syml hefo ni a rhoddodd sgwrs fanwl i ni ar ei waith, ac ar y Beibl Cymraeg. Casglwyd £180 at yr Eisteddfod yn Y Faenol.

Ar ddiwedd dathliadau Gŵyl Dewi gofynnwyd i mi: "Pryd y cawn ni wneud hyn eto?" Daeth yr ateb - ar Hydref 20ed.

Neilltuwyd dydd lau Hydref 20ed fel diwrnod cyfan o ddiolchgarwch i'r gymuned yn Henryd. Yng nghysgod yr hyn oll sy'n digwydd yn y byd mawr tu allan i'n cymdogaeth ni, a'r hyn sy'n digwydd yn nes adref, y mae'n bwysig cydio yn yr aelwyd sy'n gartref i ni. Y gymdogaeth lle rhown ein pen i lawr i gysgu bob nos.

Dewiswyd - "Am brydferthwch daear lawr" fel thema i'r diwrnod.

Gwelir detholiad o luniau gan Mr D R Williams, Ysgrifennydd Capel yr Annibynwyr, Henryd, yn y rhifyn hwn o'r Pentan sy'n rhoi golwg y camera ar ddigwyddiadau'r dydd. Daeth nifer dda i gymdeithasu a chael paned o de am 10.00 y.b. yn yr ysgoldy, cyn i bawb fynd, yn ei amser ei hun, i fyny at hen Eglwys Llangelynnin. Yna rhwng ganol dydd a dau y prynhawn gweinwyd cinio tri cwrs, yn ysgoldy'r Capel, ac ar yr un pryd yr oedd 'na gynnyrch ar werth a'r Stondin yn ddeniadol a llawn. Unwyd a ni, ar ddiwedd y cinio, gan Miss Llio Wyn Richards o Ymddiriedolaeth Datblygu y Brifysgol ym Mangor, a bu hi wedyn, gyda chynulleidfa dda arall, yn y Capel, yn uno a phlant Ysgol Llangelynnin yn eu Gwasanaeth o Ddiolchgarwch.

Bu'r cyfarfod o fawl a diolch ar gân, cerdd, darlleniadau o ryddiaith a barddoniaeth yn gyfarfod i'w gofio am 7.00 y.h. Drwy eu cyflwyniadau llwyddodd y rhai a oedd yn cymryd rhan i greu awyrgylch gyfoethog iawn o ran ysbryd a diwylliant. Yr oedd yn hynod ddiddorol sylwi ar blethiad meddwl y Salmydd, Cynan, I. D. Hooson, T Rowland Hughes, Griftydd Parry, Tony ac Aloma. Tecwyn Ifan, Chris Bowater, Trebor Edwards, Margaret Edwards, Bryan Aspden, 'Hiraethog' a mwy - Oeddem yr oeddem mewn cwmni dethol iawn.

Codwyd £381.98 ar y diwrnod a bydd yr arian yn cael ei gyflwyno yn y flwyddyn newydd i'r Labordy yn y Brifysgol ym Mangor a Chanolfan yr Orsedd yn Llandudno.

Tu ôl i'r penderfyniad i fynd i fyny i hen Eglwys Llangelynnin yr oedd atgof o lais crynedig fy mam yng nghyfraith, ar ddiwedd chwedegau'r ganrif ddiwethaf, yn adrodd ei hoff Salm: 'Dyrchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd
0 lle y daw fy nghymorth
Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr Arglwydd
Yr hwn a wnaeth Nefoedd a Daear

Yr oedd ein neiniau yn meddu ar ffydd syml. Yn seiliedig ar gred digwestiwn. Boed i ninnau drosglwyddo yr un ffydd i'n plant ac i blant ein plant.

Yng ngweddi plant yr ysgol a gyflwynwyd gan Lauren Lewis, wyres Mr a Mrs Elfed Lewis, Y Siop, Henryd, yng nghyfarfod yr hwyr cyflwynwyd diolchgarwch syml plentyn a dyhead y gymuned am aelwydydd hapus gwarchodol a chymdeithas ddedwydd i ymdroi ynddi.

Gweddïwn:
Diolch Dduw am y bwyd rydym yn fwyta,
y dillad a wisgwn, am rieni i edrych ar ein holau,
Am wlad lân a phrydferth i fyw ynddi.
Diolch am ein hysgol, am yr holl bobl sy'n ein helpu bob dydd, ac am fy ffrindiau. Amen.

Boed i gyfoeth a bendith y diwrnod arbennig yma ein tywys yn ddedwydd i dymor yr ewyllys da ac i mewn i'r flwyddyn newydd.

(Diolch i ymddiriedolwyr Capel yr Annibynwyr yn Henryd am gael defnyddio'r adeiladau ar y dydd. Diolch i'r Parchedigion Brian Wright a Eryl Lloyd Davies am gefnogi'r gymuned gyfan yn eu hymdrech i dalu diolch am holl fendithion y llecyn hardd yma o Ddyffryn Conwy. Yn arbennig diolch i blant Ysgol Llangelynnin am lenwi y Capel â'u lleisiau didwyll o ddiolchgarwch - y nhw ydyw Calon ein Cymuned.)

Margaret Jean Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy