BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Pentan
Cerflun y diafol I Gofio am y Pethau...
Ionawr 2003
Tom Parry sy'n edrych ar hanes sefydlu tref Llandudno, a hanes y Diafol ar y Postyn yn y dref...
Yn wahanol i'r rhelyw o drefi glan môr Cymru, cynlluniwyd ac adeiladwyd Llandudno fel tref bwrpasol ar gyfer ymwelwyr. Wedi'r ddeddf cau yn 1848, 'Deddf y Ladrad Mawr' yn ôl un disgrifiad, seliwyd tynged y pentref bach diarffordd. Mwyach nid oedd y boblogaeth yn gorfod dibynnu ar durio mwyn copr, pysgota a ffermio am gynhaliaeth.

Cynhaliwyd arwerthiant ym Mhlas Mawr, yng Nghonwy, ym mis Awst 1849 a gwerthwyd lleiniau o dir i'r sawl a fynnai gymryd rhan yn y fenter newydd. Menter wedi'i seilio ar gynllun Owen Williams, gŵr o Sir Fôn oedd yn syrfewr yn Lerpwl. Ym 1854 codwyd gwesty'r St George's, ac o hynny 'mlaen bu bwrlwm gwyllt o waith adeiladu. Erbyn diwedd y ganrif roedd yr hanner cylch o westai, a welir heddiw, yn ymylu'r bae.

Y dref yn tyfu
Llifodd mewnfudwyr i'r dref newydd a chodwyd tai, siopau, gweithdai, swyddfeydd ar eu cyfer. Cododd y Llandudno newydd o wlybaniaeth Morfa Rhianedd a datblygu'n un o drefi glan môr blaenllaw Prydain.

I ddechrau, cerrig lleol, carreg galch o'r Gogarth a thywod o'r twyni glan môr, a ddefnyddiwyd i adeiladu'r gyrchfan gwyliau newydd. Deuai'r coed angenrheidiol i draeth Llandudno o'r America mewn llongau hwylio yn glanio ar draeth y dref i ddadlwytho.

Rheilffordd - datblygiad pwysig
Yna, ym 1858 cyrhaeddodd y rheilffordd. Golygai hyn fod llawer mwy o ddewis o'r defnyddiau adeiladu ar gael. Mwyach roedd priddfeini a gwahanol gerrig yn cael eu cludo i mewn ac nid oedd gofyn dibynnu'n llwyr ar y garreg leol. Gyda'r defnyddiau gwahanol deuai crefftwyr i'w defnyddio.

Ymysg y 'defnyddiau newydd' deuai llawer o dywodfaen ar gyfer linteli, piled ffenestri, cerrig brig, a gwaith addurniadol cyffelyb. Erbyn wythdegau'r ganrif golygfa ddigon cyffredin oedd adeiladau brics gyda thywodfaen addumiadol ynddynt. Ar y pryd roedd galw cynyddol am 'dai bobl fawr' ar gyfer y dosbarth canol newydd a lifodd i'r dref.

Tai y bobol fawr
Codwyd tai ar eu cyfer yn y caeau lle saif Abbey Road yn awr. Yn y tŷ sydd erbyn hyn yn rhif 85 fe adeiladwyd mur amgylchynol cadarn a chyfuniad o briddfeini coch a melyn. Bob pen i'r wal gosodwyd pileri cadam a chywrain i gynnal y giatiau. Ar ben bob piler gosodwyd clamp o garreg frig, coping o dywodfaen melyn. Criw o seiri meini teithiol oedd yn trin y tywodfaen. Arferent symud o un fangre i'r llall i gyflawni'r gwaith arbenigol hyn. Eu gorchwyl oedd torri a naddu'r blociau tywodfaen ar gyfer yr adeiladwyr.

Yn rhif 85 rhaid oedd iddynt naddu carreg frig tua llathen sgwâr a rhyw ddeuddeg modfedd o uchder i goroni'r pileri. Gofynnwyd iddynt baratoi carreg gyda thop a phedwar wyneb llyfn iddi. Ar bob wyneb rhaid oedd naddu rhosyn. Mae'n amlwg fod yr hen grefftwyr hyn yn gerflunwyr penigamp ac yn meddu ar ddawn artistig ryfeddol.

Y gŵr oedd yn gyfrifol am y gwaith oedd Isaac Owen, saer maen o Ochr Penrhyn. Efe oedd fforman y safle ac yn gyfrifol am oruchwylio'r adeiladau. Bu'r hen Isaac yn ddigon anffodus i golli ei lygaid mewn damwain rhai blynyddoedd ynghynt. Am ryw reswm cododd ffrae rhwng Isaac a'r seiri meini teithiol. Peth digon cyffredin ar safleoedd adeiladu yw anghydfod rhwng y gwahanol grefftwyr a'r sawl sy'n rheoli'r gwaith.

Ond er gwaetha'r anghydfod aeth y gwaith ymlaen a gorffennwyd y tŷ, y mur o'i flaen, a'r pileri. Yna canodd y criw symudol yn iach ag Abbey Road ac Issac Owen, a symud ymlaen i'r gweithle nesaf.

Pen y Diafol
Wedi iddynt ddiflannu craffodd rhywun ar y pileri a gweld mai nid rhosyn oedd y llun a naddwyd ar wyneb un o'r cerrig ond wyneb ar ffurf pen diafol. Ond nid rhyw lun cyffredinol o'r diafol oedd yno.

Roedd yn wawdlun gwych o Isaac Owen yn ei bortreadu fel diafol unllygeidiog a chyrn yn tyfu allan o'i ben. Mae'n amlwg i un o seiri meini'r tywodfaen dalu'r pwyth yn ôl - a gwneud hynny mewn ffordd barhaol ac artistig. Yn ddiamau, dyma sut oedd cael y gair olaf!

Deil y piler yna hyd heddiw, dros ganrif yn ddiweddarach gyda gwawdlun cerflunedig yr hen Isaac yn dal i ysgyrnygu'n unllygeidiog a blin ar bawb sy'n mynd heibio'r giât.

Go brin iddo erioed ystyried y buasai ychydig o ffrwgwd gyda'i weithwyr yn para tra safai'r pileri.

Tom Parry


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy