BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Pentan
Ogof Ty'n y Graig Dyfodiad y wasg i Gonwy a'r cyffiniau
Ebrill 2006
Gan Stan Wicklen
Cysylltiad cyntaf argraffwyr â'r ardal yma oedd y wasg ddirgel a sefydlwyd mewn ogof yn Rhiwledyn, ar ochr y Gogarth Fach, ger Llandudno.

Fe'i sefydlwyd rhyw dro ar ôl 1580 gan deulu'r Puwiaid a Neuadd Penrhyn (Penrhyn Old Hall heddiw).

Amaturiaid oedd rhain a enwyd y rhai gymerodd ran mewn llawysgrif, yr hynaf i ymwneud â Llandudno mae'n debyg, o dan y teitl "Mawl Penrhyn" ym1676 a'u henwau oedd Robert Puw, ei fab Phylip a'i ferch Mary, Hugh Thomas a'r Golch a'r brodyr Styphen a William (offeiriad).

Rhaid cofio mai gwasg Babyddol oedd hon yn paratoi mân-bethau; barddoniaeth a gweddïau fel Englynion y Pader o waith yr athro enwog o Milan - Dr Gruffydd Robert.

Gellir rhannu gwaith argraffu Rhiwledyn yn ddau gyfnod. Y cyfnod cynnar oedd yr un o 1580 hyd 1585 o dan oruchwyliaeth y teulu Puw.

Yr ail gyfnod oedd yr un pan glywodd Rhosier Smith (offeiriad Pabyddol) am Wasg Rhiwledyn a gwelodd gyfle i hyrwyddo argraffu ar dir Cymru.

Ar ôl gosod a phrintio neges Gruffydd Robert Milan at y Cymry fel math o Ragymadrodd i 'Y Drych Cristnogol' anfonodd weddill y llawysgrif i Riwledyn drwy law'r Tad William Davies oedd wedi cael profiad o brintio yn Rheims.

Cafwyd Sais, Roger Thackwell. Argraffydd profiadol i hyrwyddo'r gwaith a daeth nifer o offeiriad ifainc i gynorthwyo.

Bu argraffwyr Rhiwledyn yn brysur yn cysodi a phrintio 'Y Drych Cristnogol' am naw mis, o ddiwedd haf 1586 hyd Ebrill 14eg 1587 a chofnodir hyn yn 'Mawl Penrhyn' 1676.

Llwyth a roir o'r llythrenne
Bodd yn llawn, bob i'r lle,
O fewn y brunn, heb fawr o'r braw,
A'r gwasc prenn, y gwur sun printiaw,
Y llyfr mwyn, a llawer mawl
Ar drwch cred, Druch Cristnogol.

Ond daeth diwedd sydyn a dramatig i Wasg Rhiwledyn. Ar y 15fed o Fedi 1586 cafodd Iarll Penfro (Henry Herbert) orchymyn gan Elizabeth I i erlid y Pabyddion yng Nghymru.

Rhoddodd Herbert gyfarwyddyd i Syr Thomas Mostyn i archwilio tir ac adeiladau'r Penrhyn.

Ar y 14eg o Ebrill 1487 roedd bugail, neu un o ysbiwyr Mostyn wedi gweld deuddeg o offeiriaid yn gweithio ar argraffwasg yn un o'r ogofau yn Rhiwledyn.

Aethpwyd a'r newydd yn ôl i Syr Thomas Mostyn a chasglodd hwnnw barti o ddeugain o wŷr i amgylchynu'r ardal ond roedd arnynt ofn mynd fewn i'r ogof.

Arhoswyd y tu allan i'r ogof drwy'r nos, ond erbyn y bore roedd y Pabyddion wedi diflannu ac wedi mynd a'r argraffwasg efo nhw.

Ysgrifennodd Dr William Griffith, Ynad Caernarfon lythyr at yr Archesgob Whitgift yn rhoi adroddiad o'r hyn ddigwyddodd yn Rhiwledyn ar Ebrill 16eg 1587.

Cyfeiriodd at yr ogof fel lle 'roedd allor, bwyd ac arfau a hefyd ddarnau o deip, ond doedd dim sôn am y wasg, 'roedd hon wedi diflannu efo'r offeiriaid.

Pwysigrwydd gwasg ddirgel Rhiwledyn yw mai dyma'r argraffdy cyntaf ar dir Cymru a thrwy baratoi llenyddiaeth am athroniaeth yr 'Hen Ffydd' i'r werin yn eu hiaith eu hunain roedd yn her ac yn sialens i'r awdurdodau ac i'r Eglwys Brotestanaidd.

Nid yw'n ormod dweud bod cynnyrch Gwasg Rhiwledyn, er cyn lleied ydoedd, wedi arwain at roi caniatâd i gyfieithiad William Morgan o 'Y Beibl Cysegr-Lan' 1588.

Argraffwyd y Beibl gyda chefnogaeth Yr Archesgob Whitgift a hynny drwy'r Wasg Frenhinol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy