BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Pentan
Myrddin ap Dafydd gyda chriw o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy Cymraeg yn Gyntaf
Yn ystod wythnos gyntaf mis Mawrth, cynhaliwyd wythnos Cymraeg yn Gyntaf yn Llanrwst, sef ymgyrch gyda'r nod o hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg ymysg siaradwyr Cymraeg, a cheisio codi proffil yr iaith ym mywyd pob dydd pawb yn yr ardal.
Roedd yr ymgyrch ei hun yn golygu amrywiaeth o waith paratoi, gyda rhan helaeth o'r gwaith yn cynnwys mynd o amgylch busnesau'r dref yn cyflwyno'r syniad, gan geisio cael adborth ynglŷn ag egwyddor y cynllun gan berchnogion a'r bobl sy'n gweithio yn siopau a busnesau Llanrwst.

Rhaid dweud fy mod wedi fy siomi ar yr ochr orau gan ymateb pobl y dref yn gyffredinol i'r ymgyrch. Heblaw am un ymateb negyddol, mi roedd trigolion Llanrwst ar y cyfan yn gefnogol dros ben i'r syniad, ac mi roedd y gefnogaeth hon yr un mor frwd ymysg y di-Gymraeg ag yr oedd ymysg siaradwyr Cymraeg eu hunain.

Hwn oedd y tro cyntaf i'r wythnos gael ei chynnal yn Llanrwst, a bwriad y Bwrdd yw dysgu o'r ymgyrch a gweld os oes modd ei chynnal yn yr un ardaloedd yn flynyddol, gyda golwg ar yr un pryd at ei hymestyn i drefi newydd ac ardaloedd eraill.

Hunanhyder

Mae'n amlwg fod hunanhyder pobl ynglŷn â'r Gymraeg yn cynyddu o hyd, gyda chenhedlaeth newydd o siaradwyr Cymraeg yn tyfu mewn awyrgylch lle mae defnydd o'r iaith yn gwbl ganiataol. Mae barn yn amrywio cyn belled ag y mae deddfau ynddi ond, serch hynny, mae deddfau pwysig yn eu lle erbyn hyn, a'r cam nesaf - efallai, y cam anoddaf - yw manteisio arnynt, a beichio'r gyfrifoldeb o fynnu defnyddio'r iaith.

Mae gan Iawer o sefydliadau cyhoeddus ymrwymiad rŵan i osod y Gymraeg yn gydradd gyda'r Saesneg, ac mae cyfrifoldeb gan y rhai sydd wedi ymrwymo i wneud hynny i gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Fe ddylen ni fynnu eu defnyddio nhw.

Mae nifer cynyddol o gwmnïau preifat yn troi at ddefnyddio'r Gymraeg ac yn rhoi gwasanaethau Cymraeg mewn lle. Mae'n rhaid eu defnyddio.

Os oes gennym syniadau ar sut i wella gwasanaethau neu os nad ydym yn hapus hefo'r gwasanaeth Cymraeg sydd ar gael gan sefydliad cyhoeddus, yna mae'n gwbl ganiataol i ni wneud awgrymiadau, neu i leisio ein pryderon, wrth y sefydliad hwnnw.

Y Gweithgareddau

Gwelodd yr wythnos sawl gweithgaredd diddorol, rhai yn gyfarwydd ac eraill ddim. Yn eu mysg, cafwyd noson dda iawn gyda Llion Williams yn arwain noson gwis a Sion a Sian yn y Llew Coch, Llanrwst. Cafwyd cyfraniad nid bychan gan ambell i gymeriad a thrigolion lIeol, a hoffwn ddiolch i bawb gymerodd rhan. Y canlyniad oedd noson o hwyl yn y Gymraeg a Iwyddodd i ddiddanu lIawer o rai di-Gymraeg y dref.

Bu Myrddin ap Dafydd yn gweithio hefo rhai o blant Ysgol Bro Gwydir a Dyffryn Conwy, gyda'r canlyniad fod y plant wedi cael blas ar gyfansoddi barddoniaeth. Cafwyd darn hyfryd yn dilyn thema'r ardal leol.

I orffen yr wythnos, cafwyd Noson Ffraethineb yng ngwesty'r Dolydd lle bu timau o Felin y coed, Nebo a Phadog, Llangernyw, Penmachno, Llanddoged a Llanrwst yn cystadlu. Mi ddaeth yn amlwg yn fuan iawn yn y noson fod gallu hefo geiriau yn fyw ac yn iach yng nghyffiniau Dyffryn Conwy -a hynny dim ond wrth wrando ar y beirniaid a'r arweinydd!

Roedd hi'n braf cael tamaid i fwyta a llymaid i yfed, dim ond er mwyn cael saib o'r chwerthin! Diolch yn arbennig i Gwynfor Griffiths am arwain a dewis y tasgau, ac i Aelwen a Tomos John Williams am feirniadu a chadw trefn. Edrychwn ymlaen at y cyfarfod nesaf

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb yng ngwaith y Bwrdd neu'r Fenter laith yn lleol, neu sylwadau o unrhyw fath yn gysylltied â'r iaith, yna cysylltwch â ni ar bob cyfri. Gellir cysylltu hefo Dafydd ar 01492 642 108, neu hefo Meirion a'r Fenter ar 01492 642 357. Hoffwn ddiolch i bawb gyfrannodd at waith yr wythnos, ac er ei bod wedi dod i ben parhawn i siarad Cymraeg yn gyntaf!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy