BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

LLUN
14eg Gorffennaf 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Pentan
Pont Llanrwst Hanes sefydlu Ysgol Rad Llanrwst - rhan 2
23 Chwefror 2004
Parhad o hanes sefydlu Ysgol Rad Llanrwst.
Pan sefydlwyd yr ysgol roedd yn amod, o'r cychwyn, y byddai'r addysg yn rhad i ddisgyblion o Eglwysbach, Llanrwst a Dolwyddelan. Ond roedd disgwyl i bob disgybl o'r ardaloedd yma dalu tâl mynediad ar ddechrau ei gwrs ac roedd y tâl yma yn 12C y disgybl pan agorodd yr ysgol.

Roedd yna raddfa o daliadau ar gyfer rhai a ddisgrifir fel foreeners yn y ddogfen a baratowyd gan Syr John Wynn pan sefydlwyd yr ysgol. Disgyblion o blwyfi eraill oedd rhain ac roedd y gost yn ddibynnol ar statws gymdeithasol y rhieni. Ugain punt y flwyddyn oedd cyflog y prifathro a thelid deg punt i'w ddirprwy. Hefyd roedd yna dŷ a gardd ar gael i'r ddau fel rhan o'r cytundeb. Roedd hawl gan y prifathro i gadw'r tâl mynediad y cyfeiriwyd ato fel ychwanegiad i'w gyflog.

Mae'n hawdd deall paham rhoi ffafriaeth i blant o blwyf Eglwysbach gan mai arian degwm y plwyf hwnnw oedd yn cynnal yr ysgol yn ariannol. Llanrwst oedd tref yr Wyniaid a dyna leoliad yr elusendai a'r ysgol. Ond beth am Ddolwyddelan?

Er mai Wyniaid Gwydir gaiff y clod am sefydlu a chynnal yr ysgol roedd yna enw arall yn cael ei grybwyll, fel noddwr posibl, a'r gŵr hwnnw oedd John Williams a hanai o Ddolwyddelan. Fel amryw o Gymry'r cyfnod roedd o yn fasnachwr llwyddiannus yn Llundain. Cyfeirir ato fel gof arian ac roedd o yn fancwr i James I.

Hefyd mae'n bosibl, yn ôl yr haneswyr y byddai Syr John Wyn yn benthyg arian ganddo o dro i dro. Roedd hyn tua diwedd cyfnod y Tuduriaid a chychwyn teyrnasiad y 'Stuarts'.

Daw rhan y gŵr yma, yn hanes sefydlu'r ysgol, i'r amlwg mewn achos cyfreithiol gynhaliwyd ym 1678. Roedd John Williams, gyda llaw, yn cael ei ystyried yn un hael â'i arian tuag at achosion teilwng. Yn y flwyddyn y cyfeirir ati roedd yr ysgol yn Llanrwst ar gau a'r ysgolfeistr a'i ddirprwy yn hawlio ad-daliad cyflog sylweddol.

Heb fynd i ormod o fanylion haerai'r Twrnai Cyffredinol ar y pryd mai gan John Williams a nid gan Syr John Wyn y daeth yr arian i sefydlu a chynnal yr elusen oedd yn ariannu'r ysgol. Dadleuai'r goron i John Williams, yn ystod ei oes, neu ynteu yn ei ewyllys, roi swm o arian i'w fab a Syr John Wyn i godi Ysgoldy ac Elusendai yn Nolwyddelan. Ond gan nad oedd Dolwyddelan yn lleoliad addas penderfynwyd adeiladu yn Llanrwst.

Felly gellid dadlau mai gwir noddwr yr ysgol oedd John Williams ac nad oedd Syr John Wyn yn ddim amgenach nag asiant yn gweithredu ar ei ran. Ond go brin y byddai teulu Gwydir yn derbyn honiad o'r fath. Gwir asgwrn y gynnen oedd yr ansicrwydd ynglŷn â oedd yr arian dan sylw yn waddol (endowment) a'i peidio? Os oedd, yna doedd dim hawl i atal y taliadau i'r prifathro a'i ddirprwy.

Yn anffodus ni ddaethpwyd i benderfyniad, y naill ffordd na'r llall, ym 1678 ac felly mae'r achos dros enwi John Williams fel y sefydlydd yn un sydd heb ei brofi. Ond canlyniad yr holl ymgecru cyfreithiol yn y llysoedd fu i'r Wyniaid ail-ddechrau talu am gynnal yr ysgol ac fe barhaodd hyn hyd ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg pryd yr ataliwyd y taliadau a chaewyd yr ysgol drachefn yn 1822.

Mewn dogfennau cynnar cofnodir y byddai'r ysgol yn cael ei hadeiladu ar Cae Hullyn, mae hwn yn ymddangos fel Cae Heulyn mewn dogfennau diweddarach. Hefyd mae yna gyfarwyddiadau penodol nad oedd Cae Hullyn i gael ei aredig na'i amgau gan roi'r hawl i'r plant chwarae lle y mynnent. Roedd dau dŷ, un i'r ysgolfeistr a'r llall i'w ddirprwy i'w hadeiladu ar Erw y Defaid, ac roedd beth bynnag a geir am y gwair o Gae Hullyn i fynd i'r dirprwy. Fel Usher y cyfeirir at y gŵr yma yn y ddogfen.

Roedd y ffaith nad oedd y taliadau at gynnal yr ysgol yn rhai cyson, ar y cychwyn o leiaf, wedi arwain at gau'r ysgol ar fwy nag un cyfnod. Ond rheswm tra gwahanol fu achos ymrafael yn ystod cyfnod Roger Wynne fel prifathro, ac roedd hyn lai na hanner can mlynedd wedi'r sefydlu. Fe gollodd o ei swydd am iddo wrthod gadael i'r disgyblion ddysgu Gweddi'r Arglwydd.

Bydd Y Pentan yn cadw golwg ar y datblygiadau ac yn falch o glywed gan unrhyw un hoffai leisio barn am ddyfodol yr adeilad. Hefyd mae gwahoddiad i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyfrannu, mewn unrhyw ffordd, at y gyfres yma o erthyglau ar hanes addysg uwchradd yn Llanrwst i gysylltu â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy