BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Pethe Penllyn
Tref y Bala Newidiadau tre'r Bala
Rhagfyr/Ionawr 2007/08
O Ben Moel Llan
gyda Ron Lloyd

Oes, ma' 'na waeddi wedi bod o lawer cyfeiriad am newid enwau oedd wedi bodoli yn ein hardal am ganrifoedd bellach.
Beth, yn enw pob rheswm, oedd yn bod ar 'Ysgubor Isa' sydd bellach yn mynd i gael ei galw yn "Canolfan Cywain".

Dowch inni geisio cadw ein hen hanes! Mae yna hanes i Sgubor Isa ac fe allech fod wedi ei newid yn "Ganolfan y Cariadon" - dyma lle roedd pare ifanc y dre yn mynd am dro i fyny ffordd Sgubor Isa, ac ymlaen mae'n debyg ar hyd "Lover's Walk" gerllaw. Ta waeth! Mae hyd yn oed Tynpren, neu'r Bryn yn cael ei alw yn Tŷ Pinc erbyn hyn. Dŵr o dan y bont!

Ac wrth feddwl am hyn mi fentra i dros Bont Tryweryn y cof am dref y Bala gan drio cofio pwy oedd yn bodoli yn siopau'r dre pan oeddwn i'n hogyn. Rhaid cofio bod darn helaeth o Green y Bala ym mhlwyf Llanfor, neu Llanfawr sydd bellach wedi ei frwshio dan y carped mewn swyddfa lle na wyddan nhw ddim am Bum Plwy Penllyn.

Ar y chwith wrth ddod i waelod y bont yr oedd giat i'r Green a Kiosk gerllaw yn cael ei alw yn "Station Approach", wedyn Ysgol Tŷ Tan Domen a siop Druid House sydd bellach yn gwerthu geriach ym myd y moduro, ond fferins gaem ni blant yn nyddiau Edwards Druid House... Cyn gadael Heol yr Orsaf yr oedd yna siop yn lle mae Bronallt, drws cosaf i Tryweryn House, neu Siop Sennyn - Siop Jo ydy hi rŵan a'r teulu wedi bod yma ers blynyddoedd. Roedd hufen ia a fferins i'w cael yn Siop Sennyn ers talwm!

Ymlaen i Bradford House ar y gornel - siop Television ydy hi rŵan ond yr oedd yn Siop Ddillad sef Siop Morris Jones ac wedyn mae gennyf gof amdani fel Food Office lle y byddem yn cael ein 'coupons' i gael bwyd a nwyddau adeg y rhyfel ac am beth amser wedyn. Croesi'r ffordd fawr oddi yno ac yn y gornel ger Gwynle roedd mynediad i'r Orsaf Nwy. Roedd rhai yn galw'r darn yma yn Bradford Square, ar ôl Bradford House mae'n debyg.

Af i lawr y dre fel roeddem yn mynd yn null y postmyn lawer blwyddyn yn ôl a chychwyn yn siop Wili Pell (salon trin gwallt heddiw). Yma roedd Pell yn rhedeg busnes plymar ac yn gwerthu gwydr i ffenestri. Roedd yn werth ei weld o yn torri'r gwydr mor ddi-ffwdan, ond y cof am Siop Pell i ni'r plant oedd Noble, y ci. Roedd o fel llo golew a phawb a'i ofn o. Ond lle bynnag byddai Pell nid oedd Noble yn bell. Ymlaen rŵan a dod at Siop Tomi Rowlands neu Tomi Tinman. Gwneud nwyddau at odro, pob math o ganie ac, i ni blant, trapiau dal cryllith o'r afon. Byddem yn mynd a'r crythill i Loch Cafe at Meredith a chael ceiniog y dwsin amdanynt, yntau yn ei gwerthu i'r sgotwrs. Roedd Tomi Rowlands yn cario'r post hefyd - yn rhan amser i ardal Trebenmaen ger y Rhilwas a godre Moel Emoel, ac yma bu bron iddo fygu mewn storm o eira. Lwc iddo fod John Bwlchtyno yn hel ei ddefaid yn nes am adre a dod o hyd i Tomi bron a mygu yn yr eira.

Ymlaen rŵan am Glantryweryn. Roedd yna siop fechan yn y gornel efo llawer o lyfrau yn y ffenest - tybed oedd yna library fechan yno? Yn Glantryweryn yr oedd y Labour Exchange lle byddai pobl yn edrych am waith, a bu hefyd yn fan lle roedd bechgyn yn listio i fynd i'r fyddin ar un adeg. Bu'n siop Greengrocer yn nyddiau Pego Rowlands. Wedyn at y 'Council Office' - yn y gornel yr oedd offis Penllyn Rural District Council ac yn y canol offis Cyngor Tref y Bala. Roedd yno syrjeri doctor hefyd ar un adeg. Ar y pen, garej Henblas, eiddo Jones Bros, sydd yn dal yn garej hyd heddiw yn nwylo teulu'r Pritchard. Ymlaen heibio'r Capel Saesneg at y British School. Yma y byddem ni yn cael ein cinio ysgol - cerdded o ysgol Gordon Price (Bro Tegid heddiw) a log o ddysgl bridd ar ben y bwrdd yn llawn o lobscows. Ie, byta neu lwgu oedd yr hanes. Ymlaen i'r Ship, y darn pen yn Laundry golchi dillad cyn cael ei droi yn milk bar.

Bu llawer o newid yma. Teulu Wilson gyntaf, ac os cofiaf, teulu Edwards wedyn.

Pwy fedr anghofio'r boneddwr Clwyd Edwards? Ar ei ôl o daeth Dei Gelligrin, ond bellach mae'n rhan o'r Ship.

Lle safai Siop Tom Parry roedd yno swyddfa Bost ar un adeg ac wedyn mae gen i gof am deulu Wilson yn gwerthu greengrocery yno, cyn dod yn siop gwerthu bara a chacennau. Siop Goronwy Jones wedyn, siop Chemist. Bu'n siop Raleigh ar ei ôl, cyn Sion. Siop papur newydd wedyn lle mae Sion heddiw. Miss Roberts a gofiaf i yno gyntaf ac wedyn teulu'r Watkins a symudodd yno o'r Efail Isaf yn Llanfor. Peidiwch a dweud gormod am y rhain. Maent yn perthyn braidd yn agos i mi! Ymlaen i'r Banc sydd yn dal yr un fath, ar wahân i'r ffaith fod y manijar yn byw yn y tŷ erstalwm gerllaw Caffi'r Cyfnod. Cof cyntaf am Tecwyn Rowlands yn charjio batris weiarles yno cyn iddo droi yn gaffi Cyfnod.

Tawelfan wedyn lle mae'r swyddfa Bost heddiw. Roedd yma syrjeri doctor ar un adeg ond braf ydy gweld y swyddfa Bost ar ei newydd wedd. Mae'r teulu Edwards yma ers rhai blynyddoedd bellach. Bu hefyd yn lle bwyta gan deulu'r Williams cyn hynny ac mae'n debyg mai yn y pumdegau cynnar y daeth Elwyn a Gwyneth Edwards yma. Braf ydy gweld Gwyneth heb newid fawr iawn ers yr adeg honno. Braf ydy cael swyddfa Bost ynghanol y dref ac nid mewn rhyw gornel fechan mewn archfarchnad! Braf ydy gweld Janet a'r staff wedi rhoi gwedd newydd i'r Stryd Fawr a'r swyddfa Bost.

Af ymlaen y tro nesaf! Mae yna lawer, rwy'n siŵr, efo gwell syniad na mi am y newid sydd yn hanes Tref y Bala. Cofiwch mai hogyn bach o Lanfor ydwyf ond, dyne fo, roedd yna farchnad yma yn Llanfor cyn bo sôn am Bryn Fedw Lwyd a Foxy Cefnmeirch!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy