BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

IAU
16eg Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Pethe Penllyn
Llyn Tegid o Bont Mwnwgl y Llyn Awn am dro
Mehefin 2006
O'r Grîn i fro Cefnddwygraig
Ian Lloyd Hughes
sy'n mynd â ni ar daith gerdded o Grîn y Bala, drwy Rosygwalia draw at Gefnddwygraig ac yn ôl i'r dre.
  • Cychwynnwn ein taith ar Grîn y Bala. Mae yma faes parcio braf heddiw ar safle yr hen orsaf drên. Dyma'r lein oedd yn rhedeg o'r gyffordd yr ochr arall i'r afon Ddyfrdwy hyd at Y Bala ac yn ei blaen am Drawsfynydd a Blaenau Ffestiniog cyn iddi gau adeg boddi Capel Celyn. Heddiw mae polyn signal yn dynodi'r fan. Dadorchuddiwyd y polyn gan Miss Dorothy Selleck A.E.M. Roedd y Grin yn lle pwysig ers talwm gan mai yma y cynhaliwyd y cyrddau mawr gyda'r arweinwyr Methodistaidd yn pregethu i dyrfaoedd anferth. Deuai Ann Griffiths dros y Berwyn i'r gwasanaethau hyn. Yn ddiweddarach cysylltir y fangre â Ffair y Bala ac yn 1966 gosodwyd Cerrig yr Orsedd yma adeg Eisteddfod Genedlaethol Sir Feirionnydd 1967.

  • Os edrychwch o'ch cwmpas fe welwch Domen y Bala gerllaw. Hen Domen o'r Oesoedd Canol gyda chastell pren ar ei chopa oedd yma gynt. Oddi tani mae Neuadd y Cyfnod ond yr hen Ysgol Ramadeg Tŷ Tan Domen oedd hi. Roedd cysylltiad agos rhyngddi a Choleg yr Iesu Rhydychen a gwelir arfbais y coleg hwnnw ar y mur allanol agosaf at y ffordd. Gadawodd Edward Meyrick, gŵr a aned yn yr Ucheldre ger Corwen, arian i sefydlu ysgol yma a gadawodd swm enfawr o arian i Goleg yr Iesu hefyd.

  • Fe gychwynnwn gerdded gan ddilyn y llwybr gyda glannau yr Afon Tryweryn . Croeswn yr hen reilffordd a dilyn yr afon at ble mae yn ymuno ag Afon Dyfrdwy . Cerddwn ninnau gyda glannau y Ddyfrdwy hyd at Bont Mwnwgl y Llyn . Fe welir yr hen bont ble roedd yr afon yn gadael y llyn. Ond pont gymharol newydd sydd yma'n awr. O'n blaenau fe welwn domen arall - Tomen Gronw Pebr , ger ffermdy Penybont. Hwn oedd y creadur a ddisgynnodd mewn cariad â Blodeuwedd cyn iddo gael y gosb eitha am ei drosedd.

    Map o'r daith

  • Trown i'r chwith a dilyn y ffordd fawr sydd yn arwain am Galetwr a'r Berwyn. Rhaid cymryd gofal wrth gerdded ar hyd y ffordd gan fod rhai gyrwyr cyflym yn teithio ar ei hyd. Wrth ddringo yn raddol ni allwn lai na dotio at y golygfeydd - yr Afon Ddyfrdwy islaw yn ymddolennu'n braf i gyfeiriad Edeyrnion, Tre'Llan gyferbyn inni yn cynnwys pentref bach Llanfor ac ardal wasgaredig Pantglas; Llyn Tegid fel deigryn anferth yn cael ei warchod gan y Gwastadros a thu cefn inni mae llethrau serth y Wenallt . Prysurwn ymlaen hyd y down at bont a thro sydyn yn y ffordd. O'n blaenau gwelwn graig a phlac llechen arni. Cerddwn oddi ar y ffordd a dringo at y graig. Cofeb sydd yma ar y Garth Goch i gofio y Sioe Gŵn gyntaf a gafodd ei chynnal yma yn 1873 dan nawdd Preis y Rhiwlas. Mewn cae cyfagos y cynhaliwyd y sioe.

  • Rydym yn awr yn ardal Llwyneinion . Ychydig o ffermydd gwasgaredig sydd yma a chapel a drowyd yn dŷ.

  • Dilynwn y ffordd yn ôl am ychydig, dros y bont unwaith eto ac yna i'r chwith ar hyd ffordd gul fydd yn ein harwain i bentref bach Rhosygwaliau . Wrth gerdded ar hyd y ffordd fe welir plasty hynafol draw tua'r chwith. Plas Rhiwaedog sydd yma. Llŷs Rhirid Flaidd a chartref teulu'r Llwydiaid ydoedd gynt. Roeddynt yn noddi beirdd ar hyd yr oesoedd. Yn ddiweddarach fe werthwyd y Plas a'i droi yn hostel i deithwyr. Bellach mae yn wag. Cangen o'r un teulu oedd Llwydiaid Plas yn Dre, y Bala . Drwy ei gyfeillgarwch â Simon Lloyd fe ddaeth Thomas Charles i'r Bala gyntaf a maes o law priodi ac ymgartrefu yn y dref.

  • Dyma gyrraedd pentref cysglyd yr olwg Rhosygwaliau . Mae'r ysgol wedi ei chau a'i throi yn ganolfan awyr agored. Mae'r ysgol flaenorol wedi ei throi yn dŷ annedd. Mae'r capel yn agored ond mae'r post wedi peidio ers amser. Cerddwn drwy'r pentref a sylwi ar y tai bach twt yng nghanol y pentref. Cadwn i'r dde rhag croesi'r bont sydd yn arwain tuag at Gwm Hirnant a Llyn Fyrnwy . Awn heibio'r Ganolfan Awyr Agored ac yna cymerwn lwybr troed yn sydyn i'r dde. Dilynwn y llwybr sydd yn eitha serth a throellog a dilyn afon Cymerig gan ddringo i fyny llechweddau eitha serth. Rhaid aros yn awr ac yn y man i gael ein gwynt atom a rhyfeddu at yr olygfa sydd yn agor allan tu ôl inni. Gwelwn dopiau Llandderfel yn glir, y ceunant dwfn oddi tanom a'r coed derw yn tyfu'n drwchus hyd y llethrau o boptu'r cwm. O'r diwedd wedi dringo dros gamfa cyrhaeddwn gopa'r graig. Dyma ni ar Gefnddwygraig a ffermdy Cae Glas gerllaw. Dyma le da i aros a chael paned a rhyfeddu eto at yr olygfa. Erbyn hyn mae'r olygfa yn ymestyn i'r Berwyn fawr a Chadair Bronwen i'w gweld yn glir. Gwelwn Benllyn o'n cwmpas a Chwm Cymerig o'i odre i'w begwn uwchlaw Bryn Bedwog bell.

  • Wedi gorffwys awn yn ein blaenau heibio Cae Glas a dal ar y gefnen i gyfeiriad Y Gilrhos . Os ydych wedi darllen Atgofion Andronicus cewch hanes yr ardal yma yn y bedwaredd ganrif ar bymrtheg, a'r gymdeithas oedd yn bodoli yma yr adeg hynny. Tŷ haf yw'r Gilrhos erbyn hyn. Cadwn i'r chwith ar hyd y llwybr troed rhag mynd heibio'r tŷ. Erbyn hyn mae'r wlad yn agored wedi'r coed trwchus gael eu llorio. I'r dde ar gefnen arall fe welwn adeilad arall. Encil y Coed yw'r enw arno heddiw ond dyma oedd Capel Cefnddwygraig . Nesawn at y tŷ a gwelwn olion yr hen gapel. Awn yn ein blaenau heibio Encil y Coed a chadw i'r ffordd garegog sydd yn mynd ar i waered. Yna o'ch blaen fe welwch olygfa syfrdanol - Llyn Tegid a'i hyd a'i led o Lanuwchllyn i'r Bala yn gorwedd yn osgeiddig, a'r wlad oddi amgylch yn banorama anhygoel - Yr Aran, Arennig, Moel Emoel a'r Berwyn a thref Y Bala yn cuddio'n ddioglyd ar ei lan. Rhaid aros a syllu a rhyfeddu!

  • Ar i lawr a'r ffordd garregog yn mynd yn ffordd darmac. Toc awn heibio plasty urddasol iawn yr olwg - Bryniau Golau sydd yn edrych ar yr ysblander o olygfa. Yna cyrraedd ffordd Llangywer a throi i'r dde a dilyn y llyn a'r lein bach. I'r dde ymhen amser fe welwn Westy'r Fachddeiliog a'r cwrs golff sydd wedi peidio erbyn hyn o'i flaen. Awn dros bont y rheilffordd ac yn ôl at Bont Mwnwgwl y Llyn (llun uchod).

  • Trown i'r chwith a chadw i'r chwith a dilyn y llyn yr holl ffordd at y Ganolfan Hamdden . Oddi yma gwelwn hyd y llyn a'r Aran fel brenhines osgeiddig yn ei warchod. Os am baned beth am droi i mewn i gaffi'r Ganolfan. Yna troi am y dref ac ar hyd ffordd Pensarn ac i'r Stryd Fawr a'i cherdded yr holl ffordd i'w phen pellaf ac yn ôl i'r Grîn . Rhaid sylwi wrth gwrs ar gofgolofn Thomas Edward Ellis wrth siop Awen Meirion ac at gofeb sy'n dynodi ble roedd cartref y ParchedigJohn Puleston Jones uwchlaw siop Tom Parry. Byddwch hefyd wedi gweld plac ar Neuadd Buddug yn dynodi mai yno y cychwynnodd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru yn 1934.

  • Dyna'r daith o tua 6 milltir drosodd a chyfle wedi bod i gael gweld gogoniant y rhan yma o Benllyn.

    Ian Lloyd Hughes


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy