BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Papur Menai
Parti Cerdd Dant o'r gorffennol Aduniad Aelwyd Menai
20 Chwefror 2003
Nos Wener, 2 Mai 2003 cynhelir aduniad Aelwyd Menai yng Ngwesty'r Victoria, Porthaethwy. Dyma ychydig o hanes yr Aelwyd ar hyd y blynyddoedd ...
Prif bwrpas yr aduniad yw casglu arian ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2004, ond hefyd gobeithir y bydd yr achlysur yn gyfle i'r cyn aelodau i gyd, a'r sawl fu'n eu goruchwylio (!) gyfarfod unwaith eto. Credwn eu bod bellach yn ddigon hen i fynychu Gwesty'r Vic!!

Hanes Aelwyd Menai
Datblygiad naturiol o fod yn Uwch Adran yr Urdd yn y Borth roddodd fod i Aelwyd Menai yng nghanol y saithdegau. Deuai pobol ifanc yno o Landdona i Landdaniel ac ardal Pentraeth a Llansadwrni sgwrsio, chwarae snwcer a dartiau, gwrando ar dapiau y sîn roc Gymraeg, yfed coffi a chael eu cyflenwad wythnosol o 'fisgedi buwch'! I'r anghyfarwydd ohonoch bisgedi Malted Milk oedd y rhain.

Yn ei hanterth bu dros 50 o bobol ifanc yn dod i'r Aelwyd bob nos Iau. 'Sgoldy'r Capel Mawr fu ein cartref o'r cychwyn cyntaf a chawsom bob cefnogaeth gan y Gweinidog, y Parchedig Idris Davies a'r Swyddogion. Cyfarfyddem rhwng 6.30 a 10 pm - yr Aelwyd iau tan 8 ac yna'r criw hyn tan 10. Dipyn o farathon ir gofalwyr a hynny yn aml ar ôl diwrnod caled o waith, ond tystiai pawb eu bod yn cael gwefr o fod yng nghwmnir bobl ifanc.

O fanylu ar y cofrestri gwelwn fod tua 35 o oedolion yn eu tro wedi rhoi help i gynnal y nosweithiau ac i ddifyrru a chadw llygad ar y criw.

Ysgrifenyddion cyntaf yr Aelwyd yn 1976 oedd Nesta Evans - sydd erbyn hyn yn athrawes yn Ysgol y Borth a Janet Jones - caiff hi ei hadnabod fel Janet Aethwy, yr actores heddiw.

Uchafbwyntiau
Gweithgareddau codi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1976 yw un o'r pethau sy'n aros yn hir yn y cof. Cawsom lawer o hwyl yn cyflawni'r gwaith yma hefo'r bobol ifanc. Hel at ein gilydd ar foreau Sadwrn i lapio hen bapur newydd ar gyfer y lori ddeuai o gyffiniau Croesoswallt iw gasglu. Codwyd cannoedd o bunnoedd at y 'Steddfod drwy'r dull hwn, ac roedd hyn ymhell cyn i ailgylchu ddod yn boblogaidd.

Un arall o'r uchafbwyntiau oedd gweld aelodau'r Aelwyd yn cyflwyno Neges Ewyllys Da yr Urdd ar y teledu yn 1989. Bu dau dîm yn cystadlu yn Stiwdio Barcud, Caernarfon ar Lastig, Lectric a Lwc - Dafydd Bebb, Cefyn Barton, Gareth Williams, Gerallt Williams a Dylan Jones yn un tîm a Luned Parry, Iwan ac Irfon Owen yn y llall. Cystadleuaeth i wneud teclyn arbennig ydoedd. Er cael hyfforddiant dwys gan ddau beiriannydd, colli fu hanes y ddau dîm, a daliant i honni hyd y dydd heddiw eu bod wedi cael cam!

Hwyl yr Eisteddfodau
Fel llawer Aelwyd arall cawsom brofi sawl llwyddiant Eisteddfodol - a do, fe gawsom gam lawer gwaith. Llawer gwell yw cofio'r pethau da o'r Eisteddfodau. Pwy all fyth anghofio'r hwyl gafodd yr hogia - dan arweiniad Marian Thomas yn dysgu ac yn ennill ar ganu 'Snwcer i Mi'.

Enwogion yr Aelwyd
Diddorol erbyn hyn yw gweld sawl aelod sy'n amlwg ym myd y cyfryngau neu yn perfformio - Siôn Tecwyn, Janet Aethwy, Huw Garmon, y brodyr Emyr, Nia Lloyd Jones a Rhun ap Iorwerth. Heb anghofio am y dawnus Alun Darbyshire ar yr obo.

Bu cryn fri ar y tîm Cwis hefyd. Ar un cyfnod drwodd ir ffeinas sawl tro, diolch i Luned am ei gwybodaeth anhygoel o recordiau pop Cymraeg, ac yn y diwedd cyrraedd y brig fel enillwyr cenedlaethol!

Trefnwyd sawl taith ddifyr ar foreau Sadwrn neu yn ystod y gwyliau. Yn ôl y llyfr cofnodion bu Uwch Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, yr Athro Derec Llwyd Morgan yn cyd-arwain taith draw i Ffynnon Lligwy! Ymwelwyd hefyd â ' Ty Mawr Wybrnant, Penmon, Din Lligwy a fferm y Coleg yn Abergwyngregyn. Dringwyd yr Wyddfa yn y gobaith o weld y wawr yn torri, ond siom a gafwyd. Bu sawl ymweliad â theatrau, neuaddau chwaraeon, bowlio deg a sglefrio, heb anghofio yr ymweliadau cyson wnaed â Glanllyn.

Ymddangosodd cwmni drama Yr Aelwyd yng Ngwyl Ddrama Genedlaethol yr Urdd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin hefyd.

Chwith meddwl bod nifer a fu mor eithriadol o gefnogol ir Aelwyd dros y blynyddoedd bellach wedi ein gadael. Cofiwn mewn chwithdod am eu brwdfrydedd a'u gweithgarwch dro yr Aelwyd a'r Urdd yn gyffredinol - Alwyn I. Williams, y Trysorydd cyntaf; Trefor Morgan; Meirion Penny ac Idris Davies, y gweinidog fu'n pwyllgora, cefnogi ac annog dros gymaint o flynyddoedd. Bun fraint cael cydweithio â hwy.

Aduniad mis Mai
Bu'n dipyn o gamp ceisio olrhain hynt a helynt bron i dri chant o aelodau, er mwyn cysylltu â hwy i roi gwybodaeth iddynt am Aduniad Aelwyd Menai a gynhelir yn y Fic, nos Wener, 2 Mai 2003. Huw Edward, Erddig gynt sy'n trefnu' noson a'n gobaith yw y cawn weld nifer dda ar y noson yn y Fic. Mae llythyr ar ei ffordd atoch cyn bo hir gyda'r trefniadau.

Os oes gennych luniau or Aelwyd buasem wrth ein boddau yn cael eu benthyg, fel y gallwn drefnu arddangosfa fechan ar y noson.

Am ragor o fanylion a thocynnau yr Aduniad cysylltwcl naill a Huw Edward ar 01248 717897 neu Alwyn ac Ell Owens ar 01248 712573.

Atgofion Alwyn ac Ella Owens, Carwyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy