BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Papur Dre
'Nymbar Plis?'
Tachwedd 2007
Helen Jones oedd un o'r 'Hello Girls' gwreiddiol, dyma ei hanes yn y gyfnewidfa yng Ngaernarfon.
"Nymbr Plis"?

Sawl tro yn ystod y blynyddoedd, a minnau'n gweithio yn y Gyfnewidfa Deleffon, neu y 'teliffon exchange' ar lafar gwlad, y bu i mi a fy nghyd-weithwyr ofyn y cwestiwn hwn, tybed?

Dod ar draws lluniau yn ddiarwybod y dydd o'r blaen wrth chwilota am rhywbeth arall, barodd i'm meddyliau ehedeg ar wib dros ysgwyddau trigain mlynedd a mwy, trwy ddrws ffrynt rhif dau ddeg naw Stryd Fangor, safle 'Mel's Wedding Accessories' erbyn heddiw.

Yma ar y pryd oedd cartref y gyfnewidfa deliffon. Yma y bum i a'm cyd-weithwyr, yr 'Helo Girls' lleol, yn ennill ein cyflog wythnosol digon pitw.

Pan gyrhaeddais y 'Switchboard' yn 1945, Mrs Dilys Dobb oedd y 'swperfisor'. Coffa da amdani. Gwraig garedig yn llawn cefnogaeth a chydymdeimlad a rhai ohonom ni, y genod newydd, oedd braidd wedi dywed nac ateb cloch teliffon, heb sôn am wisgo'r ffons dustiau anghyfarwydd a mentro rhoi'r plwg i ddiffodd y bylb a gofyn yn nerfus 'nymbr plis'?

Lle difyr i weithio oedd 'yr exchange'. Yr 'operator' fyddai'n delio a phob galwad, gan roi gwasanaeth personol i bob cyfrannwr, neu'r 'sybscreibar' yn ein hiaith ni.

Doedd dim rhaid gwrando ar lais undonnog, amhersonol yn eich annog i ddewis a phwyso sawl botwm cyn cyrraedd pen y daith, ar wahan, wrth gwrs, i'r galwyr yn y ciosc coch wedi iddynt ollwng eu ceiniogau i mewn i'r bocs a'u hannog i bwyso botwm 'A neu 'B'.

Mae gennyf gof da am un hen wraig bur anghyfarwydd a'r system oedd yn cael cryn drafferth i ollwng pishyn chwe' cheiniog i mewn i'r bocs pres. Wedi gofyn, yn ddigon clen mi dybiaf, ar ôl y trydydd tro, iddi drio unwaith yn rhagor, cefais yr ymateb sarrug - 'ôl reit, ond triwch y'ch gora' i ddal o tro yma'!!

Wyth o'r gloch y bore hyd wyth yr hwyr oedd cyfnod gwaith y genod, a'r dynion yn cario ymlaen dros oriau'r nos. Caem un Sadwrn mewn tri yn rhydd.

Dechreuodd y gwasanaeth teliffon yn y dref tua diwedd dau ddegau'r ganrif ddiwethaf, gydag un wraig yn gofalu am y switch board, eithaf cyntefig o bosib, ac yn cynnig gwasanaeth yn ystod oriau'r dydd yn unig.

Ond, erbyn canol y tridegau, roedd y gyfnewidfa yn cynnig oriau helaethach gyda nifer fechan o weithwyr amser llawn.

Erbyn fy nghyfnod i a'm cyfoedion yn ystod y pedwar degau roedd y gwaith wedi cynnyddu yn sylweddol. Wrth gwrs, roedd y ciosc coch wedi glanio tu allan i bob swyddfa bost ym mhob pentref ac mewn sawl man cyfleus yn y dref.

Erbyn canol pum degau'r ganrif, roedd dros saith cant o rifau ffôn ar y 'ffram' yng Nghaernarfon, ac roedd disgwyl i ni gofio y rhan fwyaf ohonynt, yn arbennig rhifau'r swyddfeydd a siopau prysuraf y dref.

Yn ogystal, roedd amryw o gwmnïau a busnesau prysur, fel y cwmnïau olew i lawr yn y doc, sawl ffatri a lladd-dy, masnachwyr fel 'Morris and Jones' ar Ffordd Santes Helen ac R. and I. Jones yn y Cei Banc.

Pan fyddaf yn methu cysgu ambell noson byddaf yn ceisio dwyn ar gof rhai o'r rhifau ffôn hyn, ac wir mae'n syndod faint sy'n llifo yn ôl i'r cof ar ôl yr holl flynyddoedd.

Roeddem hefyd yn gyfrifol am alwadau ffôn rhai o'r ardaloedd cyfagos, yr U.A.X.'s. bondigrybwyll. Gan gofio fod ardaloedd Llandwrog a Llanberis yn eu mysg, roedd hyn yn golygu gwasanaethu y meysydd awyr a'r canolfannau milwrol oedd wedi eu hadeiladu o'n cwmpas.

Gyda'r nosau byddai hogiau'r fyddin a'r llu awyr yn ffonio adref o'r ciosc gerllaw y camp. Byddem wrth ein boddau yn cynnal ambell sgwrs slei â'r bechgyn tra yn ceisio eu cysylltu a'u cartrefi, ambell un ym mherfeddion yr Alban ac eraill ym mhellteroedd Cernyw neu Ddyfnaint - ffordd ardderchog o ddysgu 'geography' wrth chwilio am leoliad sawl tref a phentref ar hyd a lled y wlad.

Goruchwyliwr 'Y Ffram', fel y'i gelwid, oedd y Peiriannydd, Mr Gus Edwards, gŵr tal a'i gap am ei ben bob amser, a chyda balchder y cariai ei ddyletswyddau yn gwneud yn siwr fod pob llinell ffôn yn ei lle priodol er mwyn sicrhau gwasanaeth mor berffaith a phosib i'r 'sybscreibars' yn ddyddiol.

Ei gynorthwydd hawddgar oedd Fflorie (Howells), hithau yr un mor fedrus ei chrefft dan ei hyfforddiant. Gyda dyfodiad yr exchanges awtomatig, yn nechreu y chwe degau, bu raid symyd y gyfnewidfa i Fangor a daeth i ben gyfnod maith o gynnig gwasanaeth teliffon personol yng Nghaernarfon.

Erbyn heddiw mae'r dull o weithio'r system ffôn wedi hen newid, a bellach gwasanaeth amhersonol y dulliau awtomatig sydd wedi cario'r dydd. Ond rwy'n dra ddiolchgar imi gael y cyfle i weithio 'dan yr hen drefn'.

Daeth tymor fy ngwasanaeth i yn yr 'exchange' i ben yn 1956 ar achlysur fy mrhiodas. Erbyn heddiw bu cryn fylchu yn ein rhengoedd, a choffa da amdanynt bob un.

Ond mae sawl un ar ôl a braf yw cael cyfarfod am stelc ar ochr y stryd o dro i dro, a sawl sgwrs yn dechreu efo 'Wyt ti'n cofio?'

Diolch i PAPUR DRE am ganiatau i un sy'n ymfalchio mewn bod ymysg yr 'Helo Girls' olaf i ofyn 'Nymbr Plis'? yng Nghaernarfon i gael cyfle i hel dipyn o atgofion gwerthfawr a melys.

HELEN JONES Ffordd y Gogledd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy