BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Papur Dre
Muriau'r castell ar lan y Fenai Ddaru chi sylwi?
Mawrth 2004
Tybed faint ohonoch chi, bobol dre, sydd wedi sylwi ar rai o'r pethau yr ydym yn dueddol o fynd heibio iddynt yn ddyddiol ac, o bosib, heb wybod dim am eu bodolaeth?

Un enghraifft yw'r hyn sydd uwchben y brif fynedfa i Gastell Caernarfon, sef Porth y Brenin, ac o gofio mai Edward I a orchmynnodd adeiladu'r castell yn 1283, hawdd maddau i unrhyw un am feddwl mai ar ei ôl ef y cafodd y Porth yr enw. Ond, y gwir yw nad felly y bu.

Enwyd ef ar ôl ei fab, Edward II y dywedir iddo gael ei eni yn y dref yn 1284 ac a adnabyddid fel 'Edward of Carnarvon.' Cwblhawyd y drydedd ran o'r gwaith adeiladu rhwng 1315 a 1322 ac, yn y flwyddyn 1320, gosodwyd cerflun o Edward II uwchben Porth y Brenin.

Erbyn heddiw, mae 700 mlynedd o draul wedi gadael ei ôl arno a'r wyneb wedi treulio. Diflannodd, hefyd y deuddeg darn o haearn a osodwyd uwch ei ben i fod yn rhwystr i adar rhag clwydo ar ben Ei Fawrhydi, a phrin y gellir gweld fod y brenin â'i law ar garn ei gledd, un ai yn ei weinio neu yn ei dynnu o'r wain. Symbol o heddwch neu o fygythiad, ond amhosib dweud pa un.

Adeiladwyd y muriau sydd o amgylch y dref yn fuan ar ôl cychwyn ar y gwaith o adeiladu'r castell ac, wrth gerdded yn hamddenol ar hyd y Cei, rwyn siŵr bod rhai ohonoch wedi sylwi ar gerrig wedi eu gosod ar ffurf bwa ar waelod y muriau. Maent yn ymddangos fel pe baent wedi bod uwchben drysau rhywbryd mewn hen oes ac eto maent bron yn wastad â'r llawr.

Un stori yn mynd o gwmpas pan oeddwn i yn blentyn oedd mai trwy ddrysau o dan y bŵau hyn yr arferai smyglwyr ddod â'u nwyddau yn anghyfreithlon i mewn i'r dref gaerog. Roedd y syniad rhamantus hwn yn apelio'n fawr atom ni'r plant, ond prin fod neb yn credu hynny erbyn heddiw.

Ymhen blynyddoedd lawer y deuthum i wybod beth oedd gwir arwyddocâd y bŵau hyn. Roedd hi'n gryn gamp gosod sylfaen mewn tir mor wlyb i adeiladwyr y 13 a 14eg ganrif. Ond doedd dim a safai yn eu ffordd.

Yr hyn a wnaed yn y Cei Mawr, yn ymyl lle mae Eglwys St. Mair ac mewn rhannau eraill o furiau'r dref sy'n wynebu ar Afon Menai, oedd suddo, yng ngeiriau'r hanesydd -"massive oaken piles" i greu sylfaen, ac yna codi'r bŵau ac adeiladu'r mur uwch eu pennau. Mae'n ffaith wyddonol, yn ôl a ddeallaf, bod mwy o gryfder yn y rhannau o'r mur sydd ar ffurf bwa na chyda'r cerrig wedi eu gosod un ar ben y llall. Ond sut, mewn difri, y gwyddai adeiladwyr yr oes honno bod hynny'n wir?

Man arall lle mae rhywun yn dueddol o fynd heibio heb sylwi ar garreg lwyd gydag ysgrifen arni, yw yn ymyl lle mae terfyn Wal y Dref rhwng Stryd Twll yn y Wal a Thanybont. Codwyd y garreg hon i gofio am haelioni Owen Jones, Glan Beuno, yn talu am ddymchwel dwy siop i'r dde o Wal y Dref a chyflwyno'r tir i'r Maer a Bwrgeisi Tref Caernarfon ac i ddangos eu gwerthfawrogiad cyflwynwyd Rhyddfraint Tref Caernarfon iddo yn 1918.

Yn 1919 derbyniodd wahoddiad gan aelodau'r Cyngor i fod yn Faer y Dref, a hynny er nad oedd yn aelod o'r Cyngor ar y pryd nac yn byw o fewn ffiniau'r dref. Yn ystod ei Faeroliaeth gwnaeth gymwynas fawr arall â Chaernarfon. Fel Rhyddfrydwr amlwg ac edmygydd o'r Prif weinidog ar y pryd, Y Gwir Anrhydeddus David Lloyd George, talodd am wneud cerflun, 8 troedfedd a 10 modfedd mewn efydd o'r gwladweinydd. Y cerflunydd oedd Syr W. Goscombe-John R.A., ac ar y Sadwrn, Awst. 6 1921, dadorchuddiodd Mr. William M. Hughes, Prif weinidog Awstralia, y cerflun ar y safle gyferbyn â Phorth Y Frenhines Elinor. Roedd Mr. Hughes yn Gymro Cymraeg a anwyd yn Llandudno ac yn gyfaill mawr i Lloyd George adeg y Rhyfel Mawr.

Wel, dyna dair enghraifft sy'n dangos yn eglur pa mor bwysig yw sylwi ar bethau wrth fynd o gwmpas y dref. Felly, os bydd rhai ohonoch, ar ôl dod i ddeall bod yna hanes i'r enghreifftiau a roddwyd, yn gwybod am rai tebyg, yna anfonwch i Papur Dre i rannu'r wybodaeth fel y down i gyd i adnabod ein tref yn well.

T Meirion Hughes


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy