BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
2il Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Papur Dre
Ivy mewn awyren Ci cynta i hedfan
Hydref 2008
Ci tywys o Gaernarfon ydy'r cynta (a'r unig un hyd yn hyn) i hedfan o Faes Awyr Môn i Gaerdydd.

Ac, yn ôl ei berchennog, Buddug Jones o Rosbodrual, bu'r profiad yn un gwerth chweil a'r daith yn hwylus dros ben iddi hi ac Ivy.

Fel y gall un o gyfranwyr PAPUR DRE dystio, eisteddodd y labrador du yn dawel wrth goesau ei feistr drwy gydol y daith i'r brifddinas ac yn ôl.

I Ivy does 'na ddim byd i'r busnes hedfan 'ma!

Ac mae Buddug yn siŵr o ddefnyddio'r gwasanaeth eto.

'Mae'r staff yn y Fali ac yng Nghaerdydd yn hynod o glên,' meddai Buddug, 'ac yng Nghaerdydd mae nhw newydd benodi rhywun penodol i edrych ar ôl ac i wneud bywyd yn haws i bobol fel fi.'

Mae Robin, un o feibion Buddug, a'i deulu (ynghyd a'i chwaer, Nerys) yn byw yng nghyffiniau Caerdydd felly mae'n bur debyg y bydd 'na drip arall yn yr awyr i Buddug ac Ivy o hyn i'r Nadolig.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy