BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Papur Dre
Adrian a Dylan Hughes Hogia'r Wyddfa
Gorffennaf 2008
Mae Dylan ac Adrian Hughes wedi bod yn codi am chwech y bore i fynd i'w gwaith yn Llanberis ers canol 2006.
Dylan i'w gwt ger y steshion ac Adrian i ddal y trên i ben yr Wyddfa.

Bu'r ddau frawd o Gaernarfon yn gweithio ar Hafod Eryri, y ganolfan newydd a 'chaffi' uchaf Cymru ers y dechrau.

Mae'r diwrnodau yn hirion gan na ddaw Adrian a thrên y gweithwyr i lawr o'r Copa tan tua saith o'r gloch y nos.

"Ond 'da ni 'di dod i arfar," meddai Adrian.

Mae dau drên arbennig yn cario'r gweithwyr bob bore am saith.

Hanner can munud o siwrnai i 70 o ddynion, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn fechgyn lleol.

Ac ar y copa yn eu disgwyl erbyn hyn mae jyngl o haearn - mwy o sgaffaldiau nag sy'n Dre!

Ond pan ystyriwch chi'r anawsterau, a bod popeth - gan gynnwys pob diferyn o ddŵr - wedi'i gludo i'r Copa, tydi'r orchest yn ddim llai na gwyrth.

Jac codi baw

Ac yng nghanol y jyngl, yn eistedd yn dalog, mae horwth o jac codi baw.

Naddo, ddaeth hwnnw ddim i fyny ar y trên, wrth ei bwysau ei hun yr aeth o i ben Wyddfa.

"Mi gymerodd hi chwe awr i'w ddreifio fo fyny 'ma," meddai Adrian, "ac roedd hynny dros ddwy flynedd yn ôl pan ddechreuon ni dynnu'r hen le i lawr."

Wedyn mae'r gweithwyr yn i cotiau melyn yn hedfan i bob cyfeiriad fel haid o wenyn - yn seiri, seiri meini, tydanwyr a phlymars.

Un plymar y daeth PAPUR DRE ar ei draws oedd Alwyn Williams, drymiwr y grŵp Celt.

Mae o'n gweithio ar ben Wyddfa ers mis Medi diwethaf, ond tydi Hafod Eryri ddim wedi ei ysbrydoli i sgwennu cân - eto!

"Mae hi 'di gwella dipyn yma erbyn hyn," meddai Adrian. "Lot o waith yn cael ei wneud dan do rŵan.

"Ar y dechra roedd hi'n galad ofnadwy. Ar dywydd gwael 70 ohonan ni'n mochal mewn dau gwt. Doedd hynny ddim yn hwyl!"

Ac ers y dechrau mae Adrian wedi mynd trwy dair set o ddillad Gortex.

Gweithio yn y depot yn y gwaelod y mae Dylan, yn llwytho'r trenau ac yn ordro defnyddiau ar gyfer yr adeiladu.

Ac mae 'na lot o hwnnw. Trên a threlar isel - 'flatbase' fel y'i gelwir - sy'n cludo popeth i fyny'r mynydd.

"Da ni'n cario rhyw ddeg tunnell o sdwff y tro, dair gwaith y dydd," meddai Dylan.

Gall hynny olygu 200 tunnell yr wythnos, sef 4,000 o dunelli ers y cychwyn, sydd wedi golygu rhyw 400 o deithiau i'r trenau bach mewn ugain mis.

Ydy, mae dymchwel yr hen adeilad a chodi Hafod Eryri (neu Copa Cael Panad, fel y dwedodd rhywun) wedi bod yn dipyn o gamp, glaw neu hindda.

Tywydd

Ar ddiwrnodau garw neu pan fo eira, tydi'r trên ond yn gallu mynd â'r gweithwyr hyd at steshon Clogwyn.

Bryd hynny bydd yn rhaid i Adrian a'r hogia gerdded y mil troedfedd sy'n weddill i'r copa. Ac ambell dro, wrth fynd i fyny i nôl y gweithwyr ar ddiwedd dydd, a'r gwynt yn rhuo o'r de-orllewin, fe saif y trên yng nghysgod y Rocky Valley uwchben Cwm Hetia. Cerdded y filltir a hanner i lawr y mynydd i ddal y trên ydy unig ddewis y dynion wedyn.

Yn wir, penderfynwyd peidio a gweithio o gwbl am gyfnod dros y gaeaf diwethaf oherwydd y tywydd.

"Gwynt ydy'r bwgan mwya," meddai Dylan. "Mi all y trên fynd drwy'r niwl a'r glaw, ond gwynt dros 42 milltir yr awr ac mae hi'n amen.

"Yn ôl hogia'r lein," ychwanega, "gaea' dwytha oedd y gwaetha ar y mynydd mewn chwe blynedd ar hugain."

"A 'da ni 'di cerdded lawr mewn gwynt 70 milltir yr awr cyn heddiw," meddai Adrian, "ac mae hynny'n hyricen!"

Tra bu Hafod Eryri ar stop am dri mis bu Dylan ac Adrian yn gweithio i'w cyflogwr, Corillion (a chontractwr yr Hafod), yn Y Fali, yn adeiladu pencadlys newydd i griw hofrenyddion melyn y Llu Awyr.

Bu'r ddau hefyd yn cydweithio ar ffordd osgoi Llanberis. A phan fydd Hafod Eryri wedi'i orffen ymlaen i joban arall.

"Ond go brin y bydd hi mor ddiddorol â hon," meddai Dylan. "Nac mor galad," meddai'i frawd!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy