BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SADWRN
30ain Awst 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Papur Dre
Dafydd Wigley A ddaeth i ben deithio byd?
25 Chwefror 2003
Nid i Dafydd Wigley AC. Er ei fod yn rhoi'r gorau i gynrychioli pobl Caernarfon yn y Cynulliad fis Mai, ac er na fydd yn teithio cymaint ar yr A470, mae Mr Wigley yn benderfynol y bydd yr un mor brysur.

Dwi wedi bod isho cwch erioed. Rhywbeth bach i botsio efo fo. Roedd fy hen daid yn gapten mor o Bwllheli, a dwi'n meddwl mai ganddo fo yr ydw i wedi cael yr awydd am hwylio.

Atgofion?
Mae Mr Wigley wedi bod â swyddfa yng Nghaernarfon ers 1974, ond mae ei gysylltiad â'r dref yn mynd yn ôl yn bellach na hynny. Symudodd ei rieni ir Bontnewydd pan oedd yn bedair oed, ac er nad ydy o'n cofio'r profiad yn glir, un o'r atgofion cynharaf sydd ganddo fo yw bod ar ben tas wair ar gefn trol Bronant, ac yn gweld mwg yn codi o'r dre a hitha'n ddiwrnod braf.

Mi ddudodd fy nhad wrtha i wedyn mai'r hen Nelson oedd wedi llosgi. Mae'n dipyn o eironi fod y lle wedi mynd ar dân am yr ail dro. A deud y gwir, ma' tannau wedi dinistrio llawer o'r dre 'ma yn anffodus - y Majestic, yr Empire a'r Guild Hall a swyddfa'r Herald oedd ar y Maes bryd hynny.

Her
Ma' Caernarfon wedi newid ers hynny wrth gwrs. Tref weithio oedd Caernarfon - roedden nhw'n dal i allforio llechi 'nôl yn y 1950'au. Roedd y dre hefyd yn fan cysylltu hefo'r rheilffordd, a dyna un o'r petha gwiriona ddigwyddodd pan wnaeth Beeching gau'r llinellau i'r dre.'

Dwi'n cofio'r strydoedd cul a'r traffig trwm, ac roedd y palmentydd yn llawn dop. Roedd pawb yn dod i Gaernarfon o bob man bryd hynny i siopa. Dyna un o'r newidiada mwya - mae'r siopa allan o'r dre bellach. Adeiladu ar y siopau bach, creu niche ydy'r her rwan. Maen nhw dal yn berthnasol ac yn bwysig i gynnal y dre.

Cymeriada'?
Dwi'n cofio treulio bob nos Sadwrn yng nghwmni'r Co Bach, ac mi roedd hi'n bleser mynd o gwmpas y dref hefo fo. Dwi'n cofio Mr Bonner Pritchard hefyd - coblyn o gymeriad - wag a thynnwr coes. Roedd y dafodiaith yn gryfach bryd hynny, and dwi'n dal i ddefnyddio rhai geiria...

Newid
Beth am newidiadau eraill?
Ers y 70'au dwi wedi gweld newidiadau cadarnhaol yng Nghaernarfon. Doedd 'na ddim Canolfan Chwaraeon yn y dre bryd hynny. Dw in cofio I. B. Griffith yn cadeirio cyfarfod cyhoeddus, ar pwyllgor ymgyrch a Bobby Haines wrth gwrs, yn perswadio'r cyngor i fynd ymlaen i gael Canolfan. Mi ddaeth y Ganolfan Denis wedyn wrth gwrs, a than i mi ddechra cael trafferth efo'n iechyd rhyw dair blynedd yn ôl, mi roeddwn inna hefyd yn mynd yno i chwarae.'

Nid tenis yw'r unig chwaraeon fu'n mynd â'i amser, ar ôl mis Mai, mae'n gobeithio treulio mwy o amser ym myd y bêl. Gyda gwên fawr lydan ar ei wyneb, mae'n dweud, Mi fydd gen i amser i fynd i weld tîm pêl-droed y Dre yn chwara'. Roeddwn i'n arfer chwara ir ail dîm pan ddown i adre o'r coleg, ac yn yr 1980au roeddwn i'n gyfarwyddwr y clwb am dair blynedd. Mi roedden nhw'n dair blynedd hapus iawn... cael cydweithio efo John King a mynd drwadd ir drydedd rownd yng Nghwpan Lloegr, ond Barnsley yn curo Dre 1-0.'

Dwi'n cofio hefyd dadlau hefo Peter Walker, Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, i gael stiwdio Barcud i Gaernarfon. Maer diwydiant ffilm a theledu bellach wedi datblygu yn yr ardal, ac mae cannoedd yn ddibynnol ar y diwydiant erbyn heddiw.'

Balchder wrth edrych ymlaen...
Dwi'n falch, eithriadol o falch o'r datblygiadau fydd yn dechrau yn y dre 'ma mis nesa. Mae'n bwysig sefydlu a datblygu cymaint o fusnesau â phosib gyda'u gwreiddiau yn yr ardal ar gymuned. Mae nhw'n llawer llai tebygol o gael eu cau i lawr.

Mae angen manteisio ar dwristiaeth. Yn 1969 roedd miliwn o ymwelwyr yn dod ir dre, erbvn rwan chwarter miliwn. Mae 'na hanes anhygoel yn perthyn i'r dre 'ma, rhwng y castell, Segontiwm ar cei, ond maen anhygoel ein bod nin methu cael mwy o dwristiaid.

Er ei fod yn rhoir gorau i gynrychioli tref Caernarfon yng 'Nghaerdydd, mi fydd Dafydd Wigley yn parhau âi gysylltiad â'r dref. Mae'n un gyfarwyddwyr yr atyniad Techniquest' fydd yn dod yma, ac mae'n chwarae rhan flaenllaw yng ngweithgareddau'r cwmnïau lleol, Picosorb ac EURO/DPC. Dwi heb wneud gymaint hefo mudiadau anabledd ag yr hoffwn i felly dwi'n gobeithio gwneud mwy i helpu Ty Gobaith hefyd.

Ac os gwelwch chi gwch diarth wedi ei angori wrth Bont yr Abar peidiwch â chael braw wrth weld pwy fydd y perchennog.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy