BBC HomeExplore the BBC

IAU
31ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Ail greu y llun Yn y pictiwr
Tachwedd 2008
Ar ddydd Sul, Medi 21, aeth llond bws bychan o aelodau Capel y Groes, Penygroes, ar bererindod i Gapel Salem, Cefncymerau ger Harlech, ar eu pererindod flynyddol.

A'r tywydd yn fendigedig o braf fe gafwyd diwrnod gwych yn dilyn ôl troed yr artist Curnow Vosper, a greodd y darlun enwog o'r caple yn ogystal â chlywed hynt a helyn y cymeriadau yn y darlun ac ychydig o hanes y capel unigryw.

Wedi i'r criw gyrraedd am 10.30, fe'u croesawyd yng Ngefncymerau gan Miss Catherine Richards, aelod o'r capel Bedyddwyr enwog a gafodd ei anfarwoli yn y llun ganrif union yn ôl, yn y flwyddyn 1908.

Wedi cael ychydig o'r hanes, fe gynhaliwyd oedfa, gydag aelodau Capel y Groes yn cymryd y rhannu arweiniol, a Miriam Pritchard, Llwyn Onn, ar yr harmoniwm.

Cafwyd cinio hamddenol a braf yng ngwesty'r Victoria ym mhentref Llanbedr gerllaw, cyn cychwyn ar droed ar hyn lôn gefn o'r pentref hwnnw i chwilio am adfail Ty'n y Fawnog, lle'r oedd Siân Owen, prif gymeriad y darlun, a'r un sy'n gwisgo'r siôl batrymog, yn byw.

Daethpwyd o hyd i'r adfail yng nghanol mieri wrth droed coeden sycamorwydden enfawr, ond un aelod o'r criw yn unig fedrodd ddringo i lawr i weld yr union le. Eto i gyd, roedd hi'n braf gallu dweud "fe fuon ni yno".

Cyn gadael y Capel, roedd rhai o aelodau Capel y Groes wedi ail-greu'r darlun, gan gymryd arnynt fod yn fodelau.

Roedd rhai, hyd yn oed, yn dweud fod y fersiwn newydd o'r llun yn rhagori ar y gwreiddiol!

Tybed sawl diafol sydd yn fersiwn 2008 o'r llun?

Karen Owen

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy