BBC HomeExplore the BBC

GWENER
1af Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Trigolion Dinas yn arddangos y lluniau a roddwyd i'r ocsiwn gan Kyffin Williams. Canolfan Gymunedol Llanwnda
Tachwedd 2004
Mae cynlluniau am Ganolfan Gymunedol newydd yn Llanwnda wedi cael hwb sylweddol yn dilyn cyhoeddiad grant sylweddol.
Cafwyd grant o £72, 000 gan Llywodraeth Cynulliad Cymru o'r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol.

Cafodd y newyddion eu croesawu gan Sam Davies, Cadeirydd Pwyllgor Canolfan Gymunedol Llanwnda.

"Mae'r dyfarniad o Grant y Cynulliad yn newyddion da dros ben, ac 'rydym yn gynyddol hyderus fod y freuddwyd o gael Canolfan newydd yn Llanwnda bron â chael ei gwireddu. Gyda'r gefnogaeth sydd wedi ei chynnig yn barod gan Gyngor Gwynedd a datblygiadau eraill, mae dros hanner cant y cant o'r cyllid angenrheidiol wedi ei sicrhau, a byddwn yn derbyn ymateb i'n cais loteri yn ystod y misoedd nesaf.

"Mae'r Pwyllgor lleol wedi gweithio'n galed iawn yn ystod y deuddeg mis olaf, ac mae'r gefnogaeth o'r gymuned yn dangos yn eglur fod yna alw am Ganolfan i ddiwallu anghenion trigolion Dinas, Llanwnda a'r fro. Yn naturiol, mae Grant y Cynulliad yn ddibynnol ar dderbyn y gweddill o'r cyllid o Gronfa'r Loteri Fawr a gobeithio fod y datblygiad diweddaraf yn rhoi'r hyder iddynt i gefnogi ein cais."

Mae'r Pwyllgor lleol hefyd yn wynebu her o godi £8,000 at y costau adeiladu, ac mae'r aelodau'n prysur baratoi ar gyfer prif ddigwyddiad codi arian y flwyddyn, sef Ocsiwn Addewidion a fydd yn cael ei chynnal ym Modurdy Vauxhall Dinas nos Wener, 12 Tachwedd gan gychwyn am 7.00 o'r gloch.

Menna Jones yw un o drefnwyr yr Ocsiwn ac meddai: "Rydym yn gobeithio cael i fyny at gant o addewidion i'w gwerthu yn yr Ocsiwn. Mae amrywiaeth syfrdanol o addewidion wedi cael eu cynnig yn barod gan gynnwys wyth llun print gan Syr Kyffin Williams, lluniau gan nifer o artistiaid lleal yn cynnwys William Selwyn, David Williams a Steven Jones, barddoniaeth gan Mei Mac, Geraint Lloyd Owen ac eraill.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy