BBC HomeExplore the BBC

LLUN
28ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Clawr y cryno ddisg Oes o Gân: Katie Wyn
Rhagfyr 2007
Casgliad o ganeuon gan y diweddar Katie Wyn Jones wedi eu dethol gan ei theulu.
Un o bleserau mwyaf ym mywyd Katie Wyn oedd canu.

Dechreuodd gystadlu yn ifanc iawn dan adain a dylanwad cryf ei thad ar aelwyd y cartref yn Llandwrog. Yn ddiweddarach bu'n cystadlu ar unawdau soprano a chanu deuawdau gyda'i chwaer a chael hyfforddiant am gyfnod gan y diweddar Evan Lewis, Bangor.

Ar ôl egwyl o rai blynyddoedd oherwydd cleisio drwg i dannau'r llais, magu pedwar o blant a ffermio, fe ail gydiodd yn ei diddordeb o ganu. Dechreuodd gystadlu ar yr Emyn ar hyd a lled Cymru a hefyd Glannau Mersi.

Bu ar lwyfan y Genedlaethol bum gwaith a dod i'r brig deirgwaith ac enillodd yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid naw gwaith, bum gwaith yn olynol. O ganlyniad roedd ganddi dros gant a hanner o gwpanau, ynghyd â sawl tarian a phlatiau arian wedi eu hennill mewn amrywiol Eisteddfodau.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000, cafodd ei hanrhydeddu drwy gael ei derbyn i'r Orsedd. Braint iddi hefyd oedd cael ei gwahodd i offrymu Gweddi'r Orsedd yn Eisteddfod Meifod 2003.

Canu i roi mwynhad oedd ei nod bob amser, boed hynny mewn Eisteddfodau, cymdeithasau llenyddol neu gartrefi henoed. Ei ffydd roddai iddi'r ysbrydoliaeth i'w galluogi i ganu Emynau gyda theimlad ac arddeliad.

Cyhoeddir y CD hon gan y teulu er cof amdani. Bydd unrhyw elw a wneir o'r gwerthiant yn mynd i Dŷ Gobaith, a chyfraniad at ei Heglwys yn Llandwrog lle y canodd am y tro olaf mewn gwasanaeth Carolau Nadolig.

I archebu un o'r grynoddisgiau yma ewch i www.traciaucymraeg.com neu ffoniwch Recordiau Aran ar 01286 831346.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy