BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

GWENER
18fed Ebrill 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Hen Injan Fawr Dorothea Corn Mawr Dorothea
Rhagfyr 2005
Atgofion gan Robin Ross Williams
Arferai Corn Mawr Chwarel Dorothea chwarae rhan annatod ym mywyd trigolion Dyffryn Nantlle.
Hwn oedd y cloc a'r proffwyd tywydd y gellid dibynnu arno, ac yr oedd y ffaith ei fod o'n ddibynadwy ac yno o hyd, fel ffrind, yn rhyw fath o gysur. Pan ddistawodd yn y 60au bu'n dipyn o golled i lawer, a theimlwyd hiraeth ar ei ôl. Yr oedd corn, sef hooter yn amryw o chwareli eraill y cylch, ond nid oedd eu sŵn yn cyrraedd fawr pellach na therfyn y chwarel.

Yr oedd Corn Mawr Dorothea, fodd bynnag yn llawer cryfach ac yn swnio fel pe bai'n ddwbl. Clywid sŵn hwn o un pen y dyffryn i'r llall ac weithiau ymhellach.

Cefais ar ddeall yn ddiweddar mai Corn Caniad y gelwid ef gan rai o'r trigolion yn Nhalysarn, ond, i ni ym mhen uchaf y Dyffryn, Corn Mawr Dorothea, a thros y bwlch yn Rhyd-ddu, Corn Nant y'i gelwid. Gwir bwrpas y cyrn hyn oedd cadw cysylltiad â'r chwarelwyr a fyddai'n gweithio yn nyfnderoedd y pyllau, ar wyneb y graig yn y siediau neu ar y tomenni rwbel. Hysbysai'r cyrn hwy o amser gwaith, egwyl i fwyta, amser tanio'r graig, ac yn y blaen. Oherwydd cryfder caniad Corn Mawr Dorothea daeth cannoedd o fewn cylch eang i ddibynnu arno, yn "ffarmwrs", yn wragedd tŷ^ a "gweithiwrs" nad oeddynt yn "chwarelwrs". Byddai eu diwrnod gwaith hwythau hefyd yn cael ei reoli gan y Corn Mawr. Yr oedd yn ddigon hawdd gwahaniaethu rhwng ei ganiad yn y bore, ganol dydd a'r hwyr ac fe fyddai hefyd yn canu am naw, deg ac un-ar-ddeg y bore a dau a thri y prynhawn.

Pan oedd fy nhad yn blentyn ac yn byw yn Nhan y Bwlch, Drws-y-coed ym mhen uchaf Dyffryn Nantlle, ac yng ngolwg y corn, fe ai oddi yno dros y mynydd i ysgol Rhyd-ddu lle roedd Pari'r Sgŵl (tad T.H. Parry Williams) yn brifathro. Wrth ddod adref o'r ysgol un diwrnod a cherdded heibio Llyn Dywarchen a thrwy Fwlch Cul-fin yn ôl i'r Dyffryn, a thraws y caeau am adref, dysgodd, fodd bynnag, y gellir gweld a'r llygad yn gyflymach na chlywed a'r glust, fod yna rywbeth oedd yn gyflymach na sŵn. O'r fan honno gallai weld yr ager (stêm) yn codi o Gorn Mawr Dorothea, a dyna lle y byddai'n cyfrif yn araf bach .. un, dau, tri ... ac i fyny i chwech neu fwy cyn y cyrhaeddai sŵn y corn ef. Yr oedd o leiaf bedair milltir i ffwrdd o'r Corn Mawr ac fe gymerai ei sŵn chwech i ddeg eiliad i gyrraedd.

"Fe chwyth y gwynt lle y mynno" meddai'r adnod. Pan ddeuai'r gwynt i fyny'r Dyffryn o'r de orllewin byddai'r Corn Mawr ar ei uchaf ac yn arwydd sicr fod y glaw ar ei ffordd o Ddinas Dinlle. Llawer tro y clywyd rhai o drigolion Cwm Pennant yn dweud pa mor falch oeddynt hwy o glywed sŵn Corn Dorothea. Arwydd oedd hyn iddynt hwy fod tywydd braf ar ddod. Pan chwythai'r gwynt o'r gogledd ddwyrain, a chorn Chwarel Llanberis i'w glywed, roedd yn arwydd sicr o wythnos fan leiaf o dywydd poeth yn Nrws-y-coed, h.y. os haf fyddai, ac os byddai i'w glywed tua diwedd Mehefin, dyna hwylio'n brysur i gneifio.

Os clywid y corn ym mis Gorffennaf neu Awst, codi'n fore a mynd ati gyda hyder i ladd cymaint o wair ag a fyddai'n bosibl. Os mai yn y gaeaf y clywid ef, deuai llawer o ddyddiau heulog, nosweithiau oer a rhewi'n galed.

Dyna beth oedd gan fy nhad i'w ddweud, pan adawodd Dalysarn a mynd yn ei ôl i fyw i'w hen gynefin. "Ohonynt i gyd, yr Hen Gorn Mawr oedd fy ffefryn i, a dywedaf pam. Ar ôl imi briodi Annie, wyres Owen Roberts yr Injan Fawr, Dorothea, cefais y pleser o fyw yn Nhalysarn am chwe blynedd ac felly o fewn tafliad carreg neu ddwy i'r Hen Gorn. Roedd ei chwyth cryf yn feistr corn imi a'm cyd chwarelwyr a rhaid oedd ufuddhau i'w alwad awdurdodol.

"Chwe blynedd yn ddiweddarach, yn 1931, dychwelais gyda'm teulu bach i fyw i dyddyn yn Nrwsycoed. Yn wir i chi, dilynodd sŵn yr hen gorn ni, gan aros yn ffrind am 30 mlynedd arall cyn y distawodd am byth ar ôl, siŵr o fod, bron ganrif o wasanaeth i'r hen Ddyffryn annwyl. O na, cofiwch nad chwythu ei blwc oedd diwedd yr HEN GLOC MAWR DOROTHEA."

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy