BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
16eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Parti ffarwelio Sheila Diolch i Sheila
Medi 2006
Wedi bron i chwarter canrif o arwain grŵp Enfys yn Nyffryn Nantlle, mae Sheila Phylip Jones o Benygroes yn gorfod rhoi'r gorau i'r gwaith.
A hithau wedi cyrraedd yr oed (65) pan fo'n rhaid i arweinyddion ymddeol yn ôl rheolau mudiad y Geidiaid, a heb neb, hyd yma, i gymryd ei lle, ofna y bydd yr uned yn dod i ben yn y fro. O gofio'r holl hwyl a gafodd hi a'r genod bach yng nghwmni ei gilydd dros y blynyddoedd, mae hyn yn peri tristwch mawr iddi.

Gwneud modelau, llunio cardiau, cefnogi sioeau a phob math o achosion da, diddori'r henoed, a phartïon gwisg ffansi ¬doedd dim pall ar y gweithgareddau y bu Sheila'n eu trefnu. Ar brydiau, byddai bron yn amhosibl rhoi troed dros riniog ei chartref yn Station House heb sathru ar focsys llawn o ddeunyddiau crefft neu fwydydd parti; helfa fawr o stwff ar gyfer y digwyddiad nesaf ar y calendr.

Wrth gwrs, byddai'r cyfan yn digwydd gyda chefnogaeth a chymorth Kenyon, gŵr Sheila, a'u merch Hayley sydd o'r un anian â hi ac yn Arweinydd y Brownies.

Cafodd aelodai'r Enfys gyfle i ddangos eu gwerthfawrogiad mewn parti yn y Dingles, Dinas Dinlle a threfnwyd noson arbennig yn Neuadd Goffa Penygroes i anrhegu Sheila a Sandra Roberts, yr arweinydd cynorthwyol, gyda nifer o gynrychiolwyr mudiad y Geidiaid yn bresennol.

Yn y llun gwelir Sheila yn y canol (blaen) gyda Hayley ei merch ar y chwith iddi. Yn y rhes ôl mae Sandra Roberts, Gill Stott, Carol Jones, Maggie Barry a Jenny Markham, ac ar y dde yn y rhes flaen Stephanie Jones.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy