BBC HomeExplore the BBC

SUL
27ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Nesta Williams (mam Guto) a'i ddwy chwaer Anni a Siân yn cyflwyno siec i ymgynghorwyr a nyrsys o Ganolfan Walton Lerpwl Gŵyl Fai
Mawrth 2009
Wrth rannu dros £6,500 yn nhafarn y Goat, Penygroes ym mis Tachwedd y llynedd, anodd oedd credu fod Gŵyl Fai Dyffryn Nantlle wedi cychwyn nôl ym 1995 ac wedi casglu mwy na £70,000 i achosion da ers hynny.

Roedd Gŵyl Fai 2008 wedi penderfynu cefnogi Canolfan Walton Lerpwl er cof am Guto Williams, un o blant y Dyffryn, fu farw yno'n 16 oed yn dilyn damwain fis Awst.

Cyflwynodd yr Ŵyl £5,000 i Ganolfan Niwroleg Walton a rhannwyd £1,300 i achosion lleol.

Er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad o'r gefnogaeth a gafodd teulu Guto gan feddygon a staff yr ysbyty, buont hwythau hefyd yn casglu arian i'r Ganolfan.

Mae ymdrechion teulu Guto, ynghyd â chriw Gŵyl Fai, wedi sicrhau cyfraniad o £15,000 i brynu offer hollbwysig i'r uned.

Mawr oedd diolch yr ymgynghorwyr a'r nyrsys a deithiodd o Lerpwl i'r Goat ym Mhenygroes i gyfarfod Gwynfor a Nesta a'r pwyllgor ac i gasglu'r siec a rhoi ychydig o gefndir a gwaith yr uned.

Am y tro cyntaf, cynhaliwyd gweithgaredd Gŵyl Fai ym mis Rhagfyr gyda chwis Nadolig yn nhafarn y Goat. Cafwyd noson gartrefol a hwyliog cyn y Nadolig.

Diolch i Iolo a Rhys unwaith eto am wneud i ni grafu'n pennau ac i Sandra a Spiros am eu cefnogaeth.

A dyma ni ar drothwy Gŵyl Fai 2009. Mae'r criw wrthi'n pwyllgora a'r penderfyniad wedi ei wneud i gefnogi apêl Leukaemia.

Gobeithio y bydd rhagflas o'r hyn fydd yn digwydd yn LLEU y mis nesaf. Cofiwch fod croeso i unrhyw un sydd a diddordeb ddod i helpu. Cysylltwch â Wena ar 01296 881103.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy