BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Y Thrulsicyrs Sioe dalent
Mai 2010
Cafwyd noson arbennig yn Neuadd Goffa LIanllyfni nos Sadwrn 10 Ebrill.

Efo Elin Fflur, Meinir Gwilym a Dewi Rhys yn beirniadu, mwynhaodd y gynulleidfa wledd o adloniant i ddangos i'r byd fod na dalent yn yr ardal.

Dilwyn Morgan, un o sêr Noson Lawen S4C oedd arweinydd y noson ac mi gafodd lond lIaw a mwy o waith yn cael trefn ar y cystadleuwyr.

Roedd y Neuadd yn llawn dop, a'r tocynnau wedi cael eu gwerthu i gyd ers dyddiau.

Roedd rhai hen ac ifanc yn cymryd rhan, pawb a'i dalent ei hun, yn cynnwys cantorion, comediwr, dawnswyr a meim.

Y drefn oedd fod y beirniaid yn penderfynu pwy oedd yn cyrraedd y rownd derfynol, a'r gynulleidfa wedyn yn pleidleisio i ethol yr enillydd.

Y rhai a lwyddodd i gyrraedd y rownd derfynol oedd Thrulsicyrs, criw o genod lleol o Lanllyfni, Dylan Roberts canwr a gitarydd ofnadwy o dalentog o Lanllyfni ac Annest Garrod o Ben Llyn, cantores 12 oed y tu hwnt o addawol.

Y genod o'r Llan ddaeth i'r brig yn y diwedd a del iawn oedden nhw hefyd (gweler y llun).

Cael hwyl a chodi arian at elusennau lleol oedd amcan y noson, a llwyddwyd i gael pobol i wario £2,000 ar y noson, oedd yn gadael elw o dros £1,200 i'w rannu rhwng Cylch Meithrin Llanllyfni, Neuadd Goffa Llanllyfni a Chylch yr Urdd.

Mae'r pwyllgor yn ddiolchgar dros ben i'r beirniaid a'r arweinydd am roi eu hamser yn rhad ac am ddim, i'r cystadleuwyr talentog a hwyliog ac wrth gwrs i'r gynulleidfa ffantastig.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy