BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
16eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Siân Eirian, rheolwraig Cae'r Gors, yn cynnau tân i groesawu'r ymwelwyr Tân ar hen aelwyd Cae'r Gors
Mai 2007
Drws agored, tanllwyth o dân a chroeso cynnes, dyna oedd yn disgwyl trigolion Rhosgadfan a'r cylch yng Nghae'r Gors ddydd Sul, 2S Mawrth.
Cyfle arbennig oedd hwn i'r ardalwyr gael cip ar y Ganolfan Dreftadaeth cyn diwrnod yr agoriad swyddogol.

Testun rhyfeddod oedd gweld yr adeilad wedi ei adfer mor wych, y dresel a'r hen gloc mawr yn eu lle, "aelwyd gynnes a bwrdd siriol yn ein haros" chwedl Kate Roberts.

Yn y tŷ llaeth roedd potiau pridd mawr a sebon coch a chanhwyllbren neu ddwy, a noe, wrth gwrs, a thaclau gwneud menyn.

Er nad yw popeth yn barod eto ambell ddodrefnyn yn dal yn eisiau ac angen ychydig o eli-pen-elin yma ac acw, mae'r rhagolygon yn ardderchog y bydd Cyfeillion Cae'r Gors yn llwyddo i droi'r hen furddun yn ganolfan wir deilwng o'r awdures.

Cafodd yr ymwelwyr gyfle i fynd am dro bach o gwmpas yr ardal a phaned a chacen yn yr ystafell ddehongli hwylus y tu ôl i'r tŷ.

Bydd hon, gobeithio, yn adnodd gwerthfawr iawn i'r gymuned leol yn ogystal ag i ymwelwyr o bell ac agos.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy