BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
16eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Maia Conran a Dyfrig Peris 'Tomen' o bosibiliadau
Mai 2005
Perygl! Artistiaid dan ddylanwad llechi
Mae tomen o bosibiliadau yn wynebu dau artist preswyl o Wynedd.
Hen straeon, chwedlau, llên gwerin, offer a pheiriannau - dyna'r math o beth sydd o ddiddordeb i Maia Conran a Dyfrig Peris a benodwyd i arwain y prosiect llechi.

Hyd at Eisteddfod Genedlaethol Eryri fis Awst, bydd y ddau'n gweithio yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ar gynllun sydd wedi'i ysbrydoli gan effaith y garreg las ar fywyd y fro.

Gan weithio yn y gymuned, bydd yr artistiaid yn ymchwilio i effaith ddiwylliannol, cymdeithasol ac artistig llechi.

Mae'r prosiect yn dipyn o fargen i Dyfrig Peris - dyma gomisiwn sylweddol cyntaf yr artist o Benygroes ers iddo raddio mewn celf ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw ddwy flynedd yn ôl.

"Mae'n gyfle da i wneud job go iawn a rwy'n gobeithio gweld prosiectau eraill yn dod allan ohoni," meddai.

Mae ganddo flys astudio'r traddodiad o gerfio llechi a chwilota am hen offer chwarel. Yn ôl yr artist mae'r posibiliadau'n ddibendraw. Golwg rhywun o'r tu allan sydd gan Maia Conran ar ddiwylliant y llechi.

Wedi graddio mewn celf ym Mhrifysgol Sheffield Hallam y llynedd mae hi wedi symud yn ôl i'w chynefin ym Mangor. Ei bwriad i ddechrau yw ffilmio cyfweliadau - a'r gamp yw canfod pobl o wahanol ardaloedd i'w holi. 'Dwi'n gobeithio gwneud tafluniad fideo ynglŷn â pherthynas pobl a'r chwarel. Mae 'na lot o gymeriadau o gwmpas, ond dydw i ddim isio defnyddio un chwarel yn unig' meddai.

Mae Maia a Dyfrig wedi sefydlu stiwdio yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis, ac yn ogystal â dangos y gwaith celf gorffenedig, bydd yr artistiaid yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Trefnir cynllun llechi gan Cyswllt Cymru mewn partneriaeth ag Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy