BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
22ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Cara Thomas Saig Eryri
Gorffennaf 2008
Llongyfarchiadau i Cara Thomas o Ysgol Baladeulyn, Nantlle ar ennill cystadleuaeth goginio genedlaethol.
Trefnwyd cystadleuaeth goginio arbennig iawn gan Undeb Amaethwyr Cymru mewn partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Eryri, Rheilffordd Yr Wyddfa, Hybu Cig Cymru a chwmni Conwy Landrover a oedd yn agored i holl blant Cymru.

Roedd gofyn i'r plant baratoi saig a fyddai'n addas i'w weini yn Hafod Eryri, y ganolfan newydd sydd i'w hagor yn ystod yr haf ar gopa'r Wyddfa.

Roedd yn rhaid defnyddio cig oen Cymreig neu gig eidion Cymreig i greu saig hollol wreiddiol, blasus a fyddai'n addas i'w gynnwys ar fwydlen y caffi.

Llwyddodd plant Ysgol Nantlle i gyrraedd y rownd derfynol a gwahoddwyd nhw i ddod i faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mae Penrhyn ar y dydd Llun i baratoi eu campweithiau ar stondin Undeb Amaethwyr Cymru.

Cynnig Cara Thomas oedd Wrap Eryri, saig flasus, ddeniadol ac iach, yn defnyddio tameidiau o gig oen Cymreig a llysiau lleol, a hi oedd enillydd y gystadleuaeth!

Derbyniodd siec o £50 iddi ei hun a siec o £200 i'r ysgol i'w wario ar offer coginio.

Bydd Cara yn awr yn cael gwahoddiad i goginio ei saig yn y ganolfan newydd ar gopa'r Wyddfa yn ystod yr Haf.

Pob hwyl iddi ar y coginio a gobeithio y caiff bas i'w gwaith ar y trên bach!

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy