BBC HomeExplore the BBC

IAU
17eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Y cerdyn post gan IS o Bolton Gwefan Dyffryn Nantlle
Gorffennaf 2005
www.nantlle.com
Mae pobl o bob rhan o'r byd wedi dechrau cymryd diddordeb yng ngwefan Dyffryn Nantlle. Bu 911 o bobl yn ymweld â'r safle yn ystod mis Mai.
Hwyrach y bydd rhai o'r ymholiadau a gafwyd o ddiddordeb i ddarllenwyr Lleu neu efallai y bydd rhywun yn medru helpu i ddatrys rhai dirgelion.

L.B. o Rhuthun yn chwilio am fedd ei modryb Nell Rose. Cludwyd gweddillion Mrs Rose o'r Unol Daleithiau gan ei mab Len i'w claddu yn Nyffryn Nantlle yn ystod cyfnod 1975-1980.

I.S. o Bolton wedi cysylltu efo cerdyn post o Idwal ap leuan Jones. Roedd ei mam a'i brawd wedi bod mewn awyren efo Idwal ac wedi rhoi'r cerdyn post iddynt wedi ei arwyddo.

M.H. wedi anfon llun o T. N. Davies o Rostryfan sydd wedi ei gladdu yn y môr ym 1978. Roedd yn briod ag Olwen a chanddynt dri o feibion Peter, Neil a Michael. Wyddoch chi fwy o'i hanes?

Oes rhywun yn cofion Thomas Harrison yn chwarae pêl-droed i dîm y 'Fê!'?

Mae Ivor Williams i Tutbury wedi bod yn garedig iawn yn rhannu ei atgofion bore oes gyda ni. Roedd yn byw yn 15 Ffordd yr Orsaf, Penygroes hyd nes oedd yn 15 oed ac mae'n dal i gofio'n gynnes am ardal ei febyd. Rydym yn gwerthfawrogi ei gyfraniad yn fawr.

Mae Kelly o Efrog Newydd yn chwilio am ddarlun o Blas Talysarn pan oedd yn ei fri. Oes gan unrhyw un lun o'r plas ac ychydig o hanes y medrwn wneud copi ohono a'i anfon ymlaen iddi?

Os hoffech ymateb i unrhyw un o'r uchod, mae'r grŵp yn cyfarfod yng Nghanolfan Dechnoleg Antur Nantlle ar nos Lun rhwng 7.00 - 9.00yh ac mae croeso i unrhyw un alw i mewn, neu ffoniwch y Ganolfan Dechnoleg ar 01286 882688.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy