BBC HomeExplore the BBC

SUL
20fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Christina Darbyshire-Jones gyda Merfyn Jones, Is-ganghellor y Brifysgol. Ysgoloriaethau i fyfyrwyr lleol
Chwefror 2005
Mae chwech o gyn fyfyrwyr Ysgol Dyffryn Nantlle ymysg dros 40 o fyfyrwyr newydd sydd wedi derbyn ysgoloriaethau i astudio ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.
Derbyniodd Carwyn James Humphreys o Benygroes ysgoloriaeth o £1000 pan gychwynnodd ei astudiaethau mewn Ffrangeg a Sbaeneg gyda'r Adran Ieithoedd Modern. Mae Siân Angharad Williams o'r Groeslon a Catrin Meirion o Stryd yr Wyddfa, Penygroes wedi derbyn £1000 bob un i astudio Seicoleg yn yr adran a ystyrir ymhlith y goreuon yn y wlad.

Derbyniodd Christina Lynette Darbyshire-Jones o Faes Hyfryd, Carmel sy'n astudio tuag at BEd mewn Cymraeg £1000 ac ysgoloriaeth ychwanegol o £500. Mae Catrin Meleri Fretwell o Ffordd Llwyndu, Penygroes sy'n astudio tuag at BEd mewn Celf a Dylunio a Christopher Wayne Evans o Drem yr Wyddfa, sy'n astudio Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol hwythau wedi derbyn ysgoloriaethau o £1000.

Cyflwynwyd yr ysgoloriaethau fel rhan o raglen TOP (Talent Opportunities Programme) y Brifysgol, un o'r rhaglenni 'ehangu mynediad' mwyaf o'i fath, gan fod Ysgol Dyffryn Nantlle yn rhan o'r rhaglen. Bu'r disgyblion yn dilyn gweithgareddau a dod ar ymweliad i ddysgu am fywyd mewn prifysgol tra roeddent yn ddisgyblion ysgol.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy