BBC HomeExplore the BBC

IAU
7fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Y Parch Iwan Llewelyn Jones yn cyflwyno'r englyn i T. Elwyn Griffiths gyda'i gyd-ddiacon o awdur Twm Prys-Jones Cydnabod gwasanaeth Llenyn
Chwefror 2003
Roedd Sul 1 Rhagfyr 2002 yn un arbennig iawn i un o ddiaconiaid Capel Soar, Penygroes a hynny am reswm unigryw.
Pum mlynedd a deugain i'r diwrnod, 1 Rhagfyr 1957 y cafodd T. Elwyn Griffiths (Llenyn fel y'i adnabyddir), ei ddewis yn Ddiacon yn ei fam eglwys.

Mae wedi gwasanaethu ei eglwys yn ffyddlon a chydwybodol am y pum mlynedd a deugain ers hynny.

Mae wedi bod yn giwrad teyrngar i nifer o weinidogion Soar yn y cyfnod maith Y Parchedigion T. Meurig Matthews, Meirion Evans, Alwyn Lloyd, Meurwyn Williams, Brython Davies, Dewi T. Morris ac Iwan Llewelyn Jones.

Bu'r ymwelydd cyson a ffyddlon drwy'r amser ag aelodau mewn gwaeledd, gartref, mewn ysbytai a chartrefi preswyl, neu mewn profedigaeth.

Bu'n driw i'w eglwys ac yn gyson yn yr oedfaon os na fyddai ar un o'i fordeithiau rownd y byd.

I ddathlu'r achlysur ac yn deyrnged iddo am ei wasanaeth cyfansoddwyd englyn iddo gan un o'i gyd-ddeaconiaid yn Soar, Twm Prys Jones. Cyflwynwyd yr englyn a llun o'r Soar Newydd, wedi eu fframio, iddo gan ei Weinidog, y Parch. Iwan Llewelyn Jones, yn yr oedfa ar y nos Sul arbennig.

Talodd y Gweinidog deyrnged glodwiw iddo a diolch am ei wasanaeth a'i gyfeillgarwch. Diolchodd Llenyn am y fraint a'r anrhydedd o wasanaethu fel diacon ac am ei anrhydeddu ar ei noson olaf fel diacon.

I gyfarch Llenyn Griffiths am wasanaeth o 45 mlynedd fel diacon yn Soar

Hawlio cael hoe pentalar wedi cwys
wna'r diacon hawddgar
diflino. Erwau Soar
drwy'i waith sydd heddiw'n dir âr.
Twm Prys


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy