BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Bwrdd wedi ei osod am de yn Cae'r Gors Gŵyl y Grug
Awst 2009
'Dach chi eisiau teimlo'n hen? Wel mae Te yn y Grug yn 50 oed eleni!

'Dach chi'n cofio'r gyfrol - yr un efo clawr mor biws a'r grug ar Foel Smytho!

I ddathlu mae Cae'r Gors yn cynnal Gŵyl y Grug trwy gydol mis Gorffennaf ac Awst i ddathlu'r achlysur. Mi fydd yna nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal, fel teithiau cerdded yn seiliedig ar y rhai sydd yn y gyfrol o Gwmpas y Foel gan Dewi Tomos.

Chwarel a Phentreffydd y gyntaf ac yn naturiol Te yn y Grug i orffen.

Bydd y teithiau yn cael eu cynnal bob prynhawn Sul hyd at 30 Awst, ac yn cychwyn o Gae'r Gors am 2.00 o'r gloch.

Yn ystod y daith olaf, bydd perfformiad arbennig pan fydd Begw, Mair a Winni yn llythrennol godi o'r grug.

Roedd y cyfan yn cychwyn, beth bynnag a'r 25 Gorffennaf gyda 'Hwyl yr Haf' yng Nghae'r Gors ac ar dir Clwb Pel-droed Mountain Rangers lle'r oedd cyfle i daflu sbwng gwlyb at y stocs, cael barbeciw, chwarae gemau fel gwthio'r geiniog, peintio wynebau a mwy.

Byddwn yn cynnal twrnamaint pel-droed i blant yng Nghlwb Pel-droed Mountain Rangers ar 15 Awst a bydd pen-wythnos agored yma dros Wyl y Banc.

'Dach chi'n mynd i'r Steddfod yn y Bala? Mi fyddwn ni yno drwy gydol yr wythnos, a bydd y dathlu'n parhau.

Ar brynhawn Llun yr Eisteddfod bydd Dr Jerry Hunter o Benygroes, yn lansio cystadleuaeth stori fer newydd sbon ar stondin Prifysgol Bangor yn union cyn y coroni.

Ar y dydd Iau bydd te parti ar stondin Academi ychydig o jeli a the go arbennig - gobeithio.

Felly dewch draw i Gae'r Gors ac i'r Eisteddfod dros yr haf i ddathlu pen-blwydd Te yn y Grug yn hanner canrif. Ac i fwynhau'r gyfrol sy'n fythol ifanc - er ein bod ni i gyd yn mynd yn hen.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy