BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Elfed Roberts Cadwynau - Elfed Roberts
Awst 2005
Ganed Elfed Roberts ym Mhenygroes a chael addysg yn ysgol gynradd y pentref ac Ysgol Dyffryn Nantlle.
Gadael yr ysgol yn 17 oed a mynd i weithio fel cyw riportar efo papurau'r Herald yng Nghaernarfon. Wedi 11 mlynedd o 'sgwennu i bapurau Cymraeg a Saesneg y cwmni, gadael i fynd i werthu bwydydd anifeiliaid i ffermwyr yn Sir Gaernarfon a Sir Fôn.

Yna, yn 1980, cael swydd fel swyddog datblygu yr Urdd yn Eryri, cyn symud dairblynedd yn ddiweddarach i fod yn drefnydd Eisteddfod yr Urdd yn y gogledd. Yn Ionawr 1986, cael swydd fel trefnydd y gogledd gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru cyn cael ei benodi'n gyfarwyddwr yr Eisteddfod yn 1993.

Mae gan Eirian, ei briod ,ac yntau un mab, Iwan Llŷr ac un ferch, Heledd Angharad:

Mae'n ddechrau Gorffennaf arna'i yn 'sgwennu'r pwt yma i LLEU, ac i ni sy'n gweithio i Eisteddfod Genedlaethol Cymru mae hi bron yn ddiwedd blwyddyn. Dowch i mi egluro y gosodiad rhyfedd yna i chi. Mae'n blwyddyn ni'n dechrau yn syth ar ôl diwrnod olaf y steddfod, felly fe ddechreuodd 2005 i ni ar yr 8fed 0 Awst, 2004 ac fe fydd 2006 yn dechrau ar 6ed o Awst, sydd gwta fis i ffwrdd.

Mae'n siŵr fod 'na lawer ohonoch yn ymwybodol o broblemau ariannol yr Eisteddfod a wna i ddim gwastraffu gofod i roddi'r rhesymau pam fod y Brifwyl wedi cael cyfnod pur anodd ers rhai blynyddoedd bellach gan eich bod wedi syrffedu darllen a chlywed amdanynt, mae'n siŵr. Ond rwy'n falch iawn o ddweud fod yna beth goleuni ym mhen draw'r twnnel, a'r gobaith yw y bydd partneriaethau rhwng yr Eisteddfod a Llywodraeth y Cynulliad a Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar un llaw, a'r Eisteddfod a Chymdeithas Llywodraeth Leol ar y llall, yn arwain at sicrwydd tymor hir i'r Brifwyl.

Yn ôl adroddiad Stevens mae 'na beth wmbreth o ewyllys da'n bodoli tuag at yr Eisteddfod ym mhob cwr o Gymru gyda mwyafrif am ei gweld yn ffynnu. Roedd Stevens yn dadlau, fodd bynnag, fod angen i'r Eisteddfod farchnata'i hunan yn fwy effeithiol er mwyn ceisio denu cynulleidfa newydd ac 'rydym wedi bod yn canolbwyntio ar hyn yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Llwyddwyd i ddenu pobl newydd i Eisteddfod Casnewydd y llynedd ac yr oedd eu hymateb yn galonogol dros ben. Mae angen i ni ailadrodd hyn ym mhob eisteddfod o hyn ymlaen a chael pobl i sylweddoli fod mynd i'r Brifwyl yn gallu bod yn fwynhad ac yn hwyl hyd yn oed os nad ydym oll yn gallu cynganeddu a gosod cerdd dant.

Neges arall, eithriadol o bwysig, yw fod yr Eisteddfod yn eiddo i bawb sy'n byw yng Nghymru a bod yna gyfle i bawb nid yn unig i berfformio ar y gwahanol lwyfannau ar y maes ond hefyd i ddod i fwynhau diwylliant ein gwlad yn ei ystyr ehangaf bosibl. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cadw'r gorau o'r gweithgareddau traddodiadol, ond mae hefyd yr un mor bwysig ein bod yn datblygu'r Eisteddfod gan gyflwyno elfennau newydd i'w gweithgareddau yn gyson.

Os llwyddir i wneud hyn bydd ein trafodaethau gyda'n cyllidwyr lawer yn haws a bydd denu nawdd gan gwmnïau masnachol hefyd yn llai o her. Gan fod yna gymaint o sôn wedi bod am sefyllfa ariannol yr Eisteddfod gadewch i ni ystyried ychydig o ffeithiau ynglŷn ag Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau.

Bydd yr ŵyl ei hun yn costio £600,000 yn ychwanegol. O ble y daw'r arian i dalu am hyn?

Daw £365,000 oddi wrth awdurdodau lleol (£350,000 oddi wrth Gyngor Gwynedd). Mae pwyllgorau apêl lleol wedi codi £335,000 sy'n ffigwr eithriadol o uchel, ac mae'r Eisteddfod wedi casglu gwerth £400,000 o nawdd ac wedi derbyn £119,000 o roddion.

Disgwylir i'r incwm a ddaw o'r tocynnau fod yn £570,000 a daw £500,000 o incwm oddi wrth y stondinau. Mae hawlfraint darlledu ac arlwyo, carafannau a.y.b. yn gyfrifol am £545,000 a disgwylir i werthiant cyhoeddiadau a nwyddau ddod â £79,000 i'r coffrau. Caiff yr Eisteddfod grant gan Fwrdd yr Iaith o £400,000 sydd yn mynd â chyfanswm yr incwm disgwyliedig i £3,313,000.

Dengys hyn fod yr Eisteddfod yn derbyn 23% o'i incwm o'r pwrs cyhoeddus.

Cwestiwn sydd o ddiddordeb mawr, wrth gwrs, yw sut y gwerir yr arian yma ar Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau. Yn fras, mae £1,514,000 yn cael ei wario ar y safle, h.y. llogi a chodi'r adeiladau, ac ar wasanaethau megis dŵr, trydan, carthffosiaeth, a.y.y.b. Mae'r elfen artistig yn costio £675,000; costau rheoli uniongyrchol megis y swyddfa leol, y Rhestr Testunau a'r Rhaglen yn £495,000; marchnata a chyhoeddusrwydd £133,000 a'r weinyddiaeth ganolog yn £491,000. Cyfanswm y gwariant disgwyliedig felly yw £3,308,000.

Rhagolygon felly o ddod â dau ben llinyn ynghyd a hyd yn oed gadael gweddill. Pam na ellir gwarantu hyn yn flynyddol? Mae popeth wedi gweithio'n arbennig o dda yn Eryri, y pwyllgorau apêl wedi cyrraedd a phasio eu nod; felly hefyd y gronfa nawdd. Mae'r rhagolygon yn dda ynglŷn â gwerthiant tocynnau, a bydd dros 400 o stondinau ar y maes, y nifer uchaf erioed. Petai hyn yn cael ei ailadrodd bob blwyddyn yna fe fyddai'r pwysau arnom yn lleihau'n sylweddol. Yn anffodus, nid oes modd gwarantu hyn ym mhob ardal, a dyna paham yr ydym wedi gofyn i Lywodraeth y Cynulliad am gynnydd bychan yn y grant blynyddol.

Ar ôl Eisteddfod Eryri a seibiant bychan byddwn yn ailafael yn y gwaith o drefnu ar gyfer Eisteddfod Abertawe a'r Cylch, Eisteddfod 2007 ble bynnag y'i cynhelir, ac Eisteddfod Caerdydd 2008, ond carwn orffen trwy ddiolch i drigolion Eryri am eu cefnogaeth aruthrol i ni yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Trueni na fyddai pobl pob ardal mor frwdfrydig a gweithgar.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy