BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

GWENER
25ain Gorffennaf 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llafar Bro
Iorwerth a'i dacsi Camp Traws
Mai 2010
Mae'n amlwg i'm stori am Gamp Traws y mis diwethaf ogleisio ychydig ar rai - gan gynnwys fy hun!

Chwiliais eto'n fy mocs trysorau, a chanfod llun o fy nhad yn ei lifrau milwrol ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae'n sefyll gyda chyfaill y tu allan i'w babell. Dyna'n union sut yr edrychai y soljiars cyntaf yng Nghamp Traws!

Wedi hynny, bum yn sgwrsio gydag Eurwyn Pritchard, Caernarfon, Iorwerth Jones , Llangefni, John Oliver Owens, Llanfairpwll, Megan Falconer, Morfa Bychan, ac Evan David Evans, Rhuthun.

Roedd rhain i gyd a hanesion am y Camp neu'r Atomfa.

Roedd Eurwyn yn cofio dod i Gamp Traws i chwarae pêl-droed gyda thîm Caernarfon - ac yn fy atgoffa o'r timau da yn Nhonfannau a Traws.

Roedd llawer ohonynt yn ennill bywoliaeth trwy chwarae'r gem.

Cofiai Ronnie Clayton o Blackburn Rovers a Lloegr yn chwarae i dim Camp Traws.

Cofiwn innau'r cae pêl-droed arbennig yn y Camp - wedi chwarae arno fy hun law er gwaith.

Cae wedi ei godi ar blatfform uchel fel bwrdd biliards oedd, un gydag ochrau serth iddo.

Rhaid oedd ceisio osgoi methu'r gôl neu daro'r bêl dros y ffiniau oherwydd y dasg flin o orfod rhedeg i lawr ar ei hôl!

Soniais eisoes am Iorwerth Jones - ffermwr o Langefni. Roedd Iorwerth yn soljiar yng Nghamp Traws yn y pumdegau cynnar - yn dilyn ei wasanaeth milwrol cenedlaethol.

Fe gychwynnodd yn Gobowen a'r Rhyl a chael ei hyfforddi yn 'Driver Radio Operator ar dryciau'n cario a thanio gynnau ar dir mynyddig.

Mae'n sôn gyda gwên am 'Tin Town' a'r bwyd cartref a gawsai'n y 'Waverley,' 'Y Mona' a'r 'Granville.' Weithiau, byddai defaid yn dod i fewn i le bwyta'r Camp, a 'hogiau'r dre'n' syllu mewn rhyfeddod ar sgiliau bugeiliol Iorwerth wrth iddo'u hel allan.

Gan ei fod yn Gymro Cymraeg, 'Taff ydoedd i'w gyfoedion, a byddent yn ei ddefnyddio i hel y merched tlysaf i 'Tin Town' - am sgwrs a phaned!

Byddai ei ddwyieithrwydd o fantais iddo yn nawnsfeydd y Camp a'r Llan.

Ar ôl treulio un penwythnos adref yn Sir Fôn, dychwelodd Iorwerth i'r gwersyll mewn hen fodur.

Cafodd hwn ei guddio gan ei 'Sarjiant' a'i ddefnyddio fel tacsi answyddogol i gludo'i gyd-filwyr i Port a'r Blaenau.

Codai ddau swllt y pen arnynt, a llanwyd y car a phetrol - yn weddol rhad - petrol a gafwyd 'trwy ddirgel ffyrdd' gan y 'sarjiant' caredig.

Onid oedd hi'n iawn i Gymro gael mantais yn ei wlad ei hun?

Felly y daeth Iorwerth yn 'entrepeneur' Cymraeg ac yn ddreifar tacsi answyddogol i'r soljiars yn y Camp.

Mae Evan David Evans yn sôn am ei dad yn goruchwylio'r gweithwyr o'r pentref oedd yn gwneud gwaith cynnal a chadw'n y Camp.

Galwyd ef yn 'Barrack Warden,' a gwisgai siwt awdurdodol addas.

Byddai ef a'r gweithwyr yn cael eu cyflogi gan y Llywodraeth fel' civil servants.' Roedd ganddo brofiad milwrol ac yn berchen a'r fedal'MM' - am ddewrder yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe'i cofiaf fel dyn tal a llygaid mwyn a'i osgo'n syth a chadarn.

Byddai'r 'gang' yn mynd i'r Camp yn ddyddiol ar lori Ned Fôn Puw, ond mae Evan yn cofio rhai yn teithio yno ar feics pan fyddai'r tywydd yn ffafriol.

Byddai'r plant yn cyfarfod eu tadau wrth Garej Edgar ar ddiwedd y dydd, a cherdded i fyny'r Llan gyda'r beiciau.

Gweithiai tad Megan Falconer yn y 'gang' yma hefyd. Roedd Megan yn byw yn fy ymyl yn Nhyliwyd Terrace yn y Stesion, a chofiaf ei thad, - dyn tal, di-gynnwrf - yn cychwyn ar foreau i ddal y lorl. Dywed Megan mae'r amser pan fyddai'n gweithio fel bugail i'r 'gang' oedd yr amser mwyaf pleserus yn hanes ei thad.

Ar ddyddiau pan fyddai'r milwyr yn tanio eu gynnau, ei orchwyl oedd hel y defaid y noson gynt i ran mwy diogel o'r mynydd.

Weithiau, byddai Megan yn cael mynd gydag ef i Benystryd, a chael amser hapus ar y fferm yno.

Wedi cau'r Camp, ar waetha'r gwrthwynebiad lleol, agorwyd y lle fel gwesty i weithwyr oedd yn adeiladu'r Atomfa ger Llyn Traws.

Daeth llawer ohonynt o Iwerddon, ac roedd y cytiau'n orlawn a bysiau 'dwbl decars' yn eu hebrwng yn ôl ac ymlaen bob dydd.

Mae pob math o storiâu am y lle yr adeg yma - llawer ohonynt yn rhai cellweirus!

Lle i gynnal gweithwyr oddi cartref ydoedd, a'r gweithwyr yma'n rhai oedd yn derbyn cyflogau breision am eu bod yn meddu ar sgiliau corfforol.

Roedd nifer hefyd yn meddu ar sgiliau technegol a gweinyddol.

Tyfodd y prosiect yn un enfawr. Geneth o Traws, Megan Falconer, oedd derbyn wraig cynta'r Camp ar ei newydd wedd.

Mae hi'n disgrifio'r cyfnod fel un heriol, ond dim ond darluniau o weithwyr cwrtais a chydwybodol y cofia hi amdanynt.

Maes o law, dyrchafwyd Megan i wneud gwaith gweinyddol pwysig yn yr Atomfa, ac mae'n cofio'n dda y dyddiau cynnar hynny cyn i'r Ganolfan ddatblygu'n un gydnabyddedig trwy Ewrop a'r byd cyfan.

Dyn ifanc gyda'i wreiddiau yn Nhremadog oedd John Oliver Owens pan aeth i weithio i Traws.

Mae gan John a minnau gysylltiad teuluol, a chofiaf iddo adael 'Y Green Garage'lle gweithiai fel prentis i'w dad am yr Atomfa.

Enillai £8 yr wythnos yn y garej a thros nos, fel petae, cododd ei gyflog i £50 a mwy yr wythnos.

Gweithiai fel 'mate' i drydanwr oedd mewn 'gang' dan gytundeb arbennig.

'Casual Labourer' oedd disgrifiad ei swydd, gwaith dros dro - a barhaodd am bedair blynedd.

Doedd dim rhyfedd i heidiau o fechgyn o bell ac agos chwilio am waith cyffelyb!

Bu'n lletya'n y Camp yn Traws am sbel cyn mynd adref i Dremadog, a chael ei gludo bob dydd i'r Atomfa, gan gael ei dalu'n ychwanegol am yr amser teithio.

Mae John yn canmol y lle, gan ddweud iddo gael profiad gwaith unigryw yno, ac mae'n ymfalchïo'n y ffaith bod prosiect Atomfa Traws y mwyaf yn Ewrop o ran gwariant a maint ei gweithwyr yn y blynyddoedd hynny.

Mae gan John yntau straeon gogleisiol. Soniodd am Wyddel a gyflogwyd i wthio berfa wag trwy'r dydd.

Noda wedyn mai'r dyn mwyaf cefnog yn ei 'gang' oedd yr un a wnâi de'n y cwt.

Cawsai ei dalu'n unig am ddisychedu ei gydweithwyr.

Yn ogystal, byddai ei wraig yn gwneud teisennau a bisgedi i'w gwerthu gyda'r te.

Daeth 'betio' ar geffylau'n arferiad, a datblygodd sawl un o'r gweithwyr yn sgilgar fel 'tipstar.' Gan mai gwaith 'casual' oedd hwn, talwyd i'r gweithwyr yn wythnosol mewn arian parod mewn paced bychan brown ac arno 'adwy' blastig yn ei gornel - i ganiatáu gallu cyfri'r arian papur ar ôl ei dderbyn.

Does dim dwywaith na fu'r Atomfa'n y Traws y cyflogwr mwyaf hael a welwyd, ac a welir, fyth yn yr ardal hon.

Gall sawl un a gyflogwyd yno adrodd geiriau'r gan boblogaidd - 'Doedden nhw'n ddyddiau da dros ben!'

Nepell o'm cartref innau ar Ynys Môn, mae trafodaethau'n cymryd lle'r dyddiau yma ynglŷn a 'Wylfa B' - pwnc llosg!

Yn y Traws, mae'r Camp wedi hen ddiflannu a'r Atomfa hithau'n paratoi at ei diflaniad.

Gwelaf o flaen fy llygaid y munudau yma gofgolofn Hedd Wyn, sy'n edrych i gyfeiriad yr Ysgwrn. Bu hon yma cyn dyddiau'r un Camp nac Atomfa.

John Norman

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy