BBC HomeExplore the BBC

IAU
24ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Goriad
Ffordd Deiniol Tyllu am wres
Tachwedd 2004
Bangor fydd yn arwain y maes mewn dull gwahanol o wresogi adeiladau os bydd arbrawf sy'n dechrau'r mis hwn yn llwyddiannus.
Cyn codi Canolfan Newydd ar Safle Gwyddoniaeth y Brifysgol ar Ffordd Deiniol bydd peiriannau yn tyllu ymhell i'r ddaear i geisio canfod gwres.

Yma y codir Canolfan Amgylchedd Cymru. Mae prif wyddonwyr y Coleg yn ffyddiog y bydd hi'n bosibl gwresogi'r ganolfan newydd am hanner can mlynedd.

Y bwriad yw defnyddio ynni geothermol o'r ddaear i wresogi ac i oeri'r adeilad newydd. Bydd y peiriannau'n tyllu 400 troedfedd i'r graig a chaiff dŵr ei beipio i mewn ac allan o'r twll.

Oherwydd bod y dŵr yn cael ei gynhesu yng nghrombil y ddaear, bydd hwn yn ei dro yn cael ei ddefnyddio i gynhesu'r adeiladau.

Mae'r dull yma o wresogi, yn ôl yr arbenigwyr, yn arbed ynni, yn rhatach ac yn iachach o safbwynt yr amgylchedd. Ni fydd angen cymaint o waith cynnal a chadw a'r dulliau arferol.

Defnyddir y math hwn o ynni ar y cyfandir ac yn America a'r dull hwn a gaiff ei osod i wresogi adeilad newydd y Cynulliad ym Mae Caerdydd. Bydd y gwaith o godi'r ganolfan yn debyg o ddechrau ym Mangor yn y gwanwyn.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy