BBC HomeExplore the BBC

GWENER
1af Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Goriad
Bethan Land ar y brig unwaith eto. Doniau Teulu Land
Mehefin 2003
Bethan Land merch Ernest a Lynda Land, Fferm y Garth, Y Felinheli.
Aeth Bethan i Ysgol Gynradd y Garnedd: (1976 1983). Mr William Lloyd Davies oedd y Prifathro ar y pryd, a buan y sylweddolwyd bod ganddi ddawn arbennig hyd yn oed pan oedd hi'n ferch ifanc, sef o arlunio.

Pan oedd yn unarddeg oed fe aeth i Ysgol Tryfan a'i hoff bynciau oedd Celf a Darlunio a gwaith gwnio. Yr athrawesau oedd Mrs Cadi Thomas a Mrs Morfudd Hughes. Ar ôl sefyll arholiadau lefel A aeth i Goleg Technegol Gwynedd am flwyddyn i wneud Cwrs Sylfaen mewn Ffasiwn a Chelf. Ac oddi yno i Goleg Cheltenham and Gloucester am dair blynedd lle cafodd radd mewn Cynllunio Ffasiwn. Yn wir cafodd ddangos ei dillad ar y 'Cat Walk' yn yn Llundain.

Yn 1995 fe benderfynodd Bethan fynd i Los Angeles i weithio yn adran y ffilmiau. Yr oedd yn anodd yn y dechrau cael gwaith. Yr oedd weithiau yn gweithio am ddim ar ffilmiau er mwyn cael profiad.

Mae wedi gwneud dilladau i fwncïod mewn ffilm ac mae wedi gweithio efo Rowan Atkinson (Mr Bean); Sue Elen (Dallas); Gwyneth Paltrow; Bruce Willis; Ben Stiller; Angelina Jolie a Billy Bob Thorton ymysg eraill. Dyma rai o'r ffilmiau y gweithiodd arnynt: Shallow Hal, Zoolander, Bandits, Mr Bean Goes to Hollywood. Y ffilm mae hi yn gweithio ar y funud ydi Sea Biscuit. Hanes ceffylau rasio ydi hi.

Mae rhan o'r ffilm wedi cael ei ffilmio yn Kentucky ym mis Hydref, 2002. Bethan a ofalai am yr hetiau yn y ffilm yma. Aethon fel teulu i weld Shallow Hall i bictiwrs ar gyrion Llandudno er mwyn cael gweld enw Bethan Land ar y sgrin fel cynllunydd am y tro cyntaf.

Mae ei brawd Hefin yn gwneud yn dda hefyd fel C.A.D. Designer Engineer i gwmni Johnsons Cortrols. Ar hyn o bryd mae yn gweithio ar gynllun tu fewn i gar Jaguar. Mae Hefin yn byw yn Royal Lemington Spa.

Aeth yntau hefyd i Ysgol y Garnedd Ysgol Tryfan wedyn i Goleg Technegol Gwynedd NEWI yng Nghei Connah a graddio yn Salford Manceinion. Pob lwc i'r ddau.

Ernest Land

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy