BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
22ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Goriad
Y côr yn cadnu cyn y rygbi Prysurdeb ysgol
Mawrth 2009
Yn dilyn llwyddiant eu halbwm newydd i ddathlu'r deunaw, mae aelodau o'r ysgol berfformio Glanaethwy wedi bod yn brysur wrth iddynt ymddangos ar rai o lwyfannau mwyaf enwog Prydain.

Ym mis Ionawr, cafodd y Côr Ieuenctid yr anrhydedd o ganu'r anthem genedlaethol ynghyd a Chôrdydd, Caerdydd wrth i Gymru herio'r Saeson ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Hefyd yn ystod y mis bu'r côr yn perfformio o Fortuna, prif gân yr albwm newydd, yn fyw ar raglen ITV, The Alan Titchmarsh Show.

Yn y cyfamser, teithiodd y Côr Iau i Aberystwyth er mwyn cystadlu yn rownd gynderfynol Côr Cymru 2009.

Wrth ddwyn i'r cof y profiad o ganu yn y stadiwm genedlaethol, dywedodd Siôn Emyr, aelod o'r Côr Ieuenctid a chefnogwr rygbi o fri, "Roedd yr holl beth yn brofiad anhygoel.

"Roeddan ni gyd fel plant bach cyn i ni fynd ar y cae. Dwi'n cofio dod drwy'r twnnel sy'n cael ei alw'n 'Ceg y Ddraig' a chyrraedd y maes.

Ddechreuon ni ganu'r caneuon cynta', ac wrth i ni ganu roedd y stadiwm yn llenwi mwy a mwy. Erbyn i ni gyrraedd y medli, roedd y sŵn yn fyddarol.

"Wedyn daeth bois Cymru 'mlaen ac roedd hi'n amser canu'r anthem. Dwi ddim yn gallu disgrifio'r teimlad yna, roeddan ni gyd mor falch o fod yn Gymry ac roedd yn anodd cadw rheolaeth ar yr emosiwn!

"Roedd y dorf i gyd ar eu traed ac roedd rhedeg oddi ar y maes gyda 74,500 yn clapio ac yn bloeddio yn brofiad bythgofiadwy.

"Ar ôl hyn i gyd, gawson ni wylio'r gem ac wrth gwrs Cymru aeth a hi, felly mwy fyth o achos dathlu!"

Ychwanegodd Rhian Roberts, cyd- sylfaenydd Ysgol Glanaethwy, "Roedd bod yna i weld y côr yn perfformio yn ein stadiwm genedlaethol yn brofiad ffantastig ac roedd ymateb y dorf yn wych.

"Roeddwn wrth fy modd yn gweld wynebau'r myfyrwyr. Mae adegau fel hynny'n gwneud i fyny am yr oriau o waith caled. Gobeithio i ni ysbrydoli'r tîm am weddill y bencampwriaeth."

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy