BBC HomeExplore the BBC

IAU
7fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Goriad
Golygfa dros Fangor O Fangor i Fangor
Ionawr 2003
Hanes un o ddarllenwyr Goriad yn ymweld â Bangor Tasmania ...
Sawl Bangor sy 'na tybed? Ceir Bangor is y coed ger Wresam, mae yna Fangor yng Ngogledd Iwerddon a Bangor yn nhalaith Maine yn America. Eleni, pan oeddwn i ac Ann yn twrio Tasmania am wythnos, buom yn treulio deuddydd yn ardal Launceston ngogledd yr ynys. O astudio'r map, syndod fu gweld lle o'r Bangor.

Dyma benderfynu mynd i'w weld. I ffwrdd a ni trwy anghyfannedd bron, o drefi bychain ac anaml. a phentrefi llai Ar of cryn grwydro, wele arwyddbost: BANGOR. Ger y troad safai eglwys haearn gwrymiog, dywyll yr olwg, wrth Neuadd Bentref ac un ty sylweddol. Yr oedd popeth ynghau yr un enaid byw i'w weld. Dyma dynnu lluniau a mynd ymlaen heibio'r tro gan ddisgwyl gweld y dref.

Ni welid ond gwlad braf agored, ac un ty ffarm. Aethom yno i holi. Daeth gwraig i'r drws: yr oedd ei merch wedi ei rhybuddio bod deuddyn dieithr ger yr eglwys, gan dybio mai Tystion Jehofa oeddem! Mrs Chugg oedd ei henw. "Chwilio am Fangor ydyn ni: - "Dych chi yn y lle iawn" - "Ble mae canol y dre?" - "Dych chi newydd ei basio - dyna'r cyfan sy ma". Soniodd fel y cawsai ei phlant eu bedyddio yn yr eglwys, a oedd bellach wedi cau ei drysau am byth. Cawsai'r eglwys ei phrynu gan berchennog cyfagos, rhag i neb arall allu tarfu ar ei heddwch. Ers talwm buasai gwesty, post a gorsaf heddlu yno. "Cymry a roes ei enw i'r lle - mi fuon' yn tynnu llechi o'r chwarel yma."

Gan ddilyn ei chyfarwyddyd, aethom ar hyd llwybr goedwig drwchus, gydag Ann yn ofni nadroedd a minnau'n fwy talog yn arwain (gan obeithio na welwn un o bryfed gwenwynig y wlad). Ar ôl chwarter awr, dyma ni'n sefvll o flaen hen bonc chwarel, llechwedd yn daenfa o deilchion llechi, ac ambell ddarn o haearn rhydlyd. Roedd hi fel y bedd yno.

Yn ôl â ni i fynwent yr eglwys. Nid oedd yr un enw Cymraeg ar gerrig y beddau. Os Cymry o chwarel y Penrhyn a ddaethai yno, adeg y Streic Fawr, dyweder, yna go brin y buasen nhw wedi mynychu Eglwys Anglicanaidd. Ond os felly, i ble aethon nhw?

Mud oedd y cerrig ar bob llaw; ac er bod amgueddfa o hanes yr ardal yn nhref fach Lilydale, gerllaw, yr oedd honno ar gau, ac ni wyddai neb ddim o hanes Bangor.

Dichon na lwyddodd y chwarel oherwydd y drafferth o gludo'r crawiau o'r bonc - nid oedd ôl unrhyw lein bach yno. Mae digonedd o goed yn Nhasmania; haws ei gael a'i drin na llechi. Tybed â wyr rhai ohonoch chi beth oedd hanes Bangor Tasmania? A ymfudodd perthynas ichi yno, tua 1900?

Ar ein taith tua'r brifddinas, Hobart, yn y De, aethom heibio traethau hardd y Pasiffig, trwy ardal Glamorgan, trwy bentrefi Beaumaris a Swansea, lle buom yn aros noson mewn Hostel Ieuenctid, a thrwy Llandaff. Y cwbl oedd yno, oedd un ty, mynwent a chwe bedd ynddi, a'r arwyddbost!

Dengys er lleoedd Tasmania y bu nifer o Gymry ac o Gernywiaid yno: ffordd i Bort Arthur, aethom heibio Bangor arall, nad oedd yn ôl pob golwg ond yn enw ffarm. Efallai y cawn gyfle i ymweld tro nesaf os byw ac iach!

B.G.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy