BBC HomeExplore the BBC

IAU
31ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Goriad
Gwyn Roberts, Catrin a'r ddeiseb Plant mewn Perygl
19 Ionawr 2004
Mae rhieni un ysgol ym Mangor yn poeni gymaint am ddiogelwch eu plant nes iddyn nhw benderfynu trefnu deiseb i alw am well trefniadau traffig ger mynedfa'r ysgol.
Rhieni Ysgol y Garnedd sydd wedi hel y ddeiseb. Yn ôl un o'r trefnwyr, Gwyn Roberts o Ddeiniolen, sydd â merch 4 oed yn yr ysgol,

"Mae canran uchel o rieni'r Garnedd yn dod â'u plant i'r ysgol mewn car, a phawb yn cyrraedd yr un pryd. Rydan ni wedi gweld plant yn cerdded tu ôl i geir sydd wedi parcio, a cheir yn bacio nôl. Mae rhai near misses wedi bod am bod y ffordd at fynedfa'r ysgol mor gul; a sôn bod ceir wedi taro'i gilydd yn y gorffennol".

Ym Mhwllheli fis Tachwedd bu farw Huw Emyr Roberts, 2 oed, wedi i gar daro'i bram yn Ysgol Cymerau. Ddyddiau wedyn cwynodd Clara Owen bod car bron a tharo un o'i phlant hi, Tamara, 2 oed ger Ysgol Cae Top, Bangor. Ac mae pryder am ddiogelwch ger nifer o Ysgolion Sir.

Casglwyd dros gant o enwau ar ddeiseb rhieni'r Garnedd a'i rhoi i Gyngor Gwynedd. Dywedodd llefarydd o'r Cyngor wrth y Goriad,

"Mae'r sefyllfa'n amrywio o ysgol i ysgol. Mae'r Cyngor o'r farn y dylid ymateb yn synhwyrol drwy wahaniaethu rhwng yr hyn sy'n digwydd ar dir ysgol a'r anhawsterau parcio tu allan i ffiniau ysgol ar ddechrau a diwedd y dydd. Y bwriad yw cynnal asesiad risg tu allan i ffiniau'r ysgolion. Felly bydd y Cyngor yn delio gydag unrhyw gwynion a deisebau drwy baratoi adroddiad ar bob sefyllfa wahanol".

Ond mae rhieni am weld gweithredu buan i sicrhau diogelwch y plant. Yn ôl Gwyn Roberts "Weithiau mae'n anhrefn llwyr wrth y Garnedd, a'r sefyllfa'n beryglus ofnadwy."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy