BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Goriad
Harri Parri ac Ann Parri Williams Heli'r Heulyn
Ebrill 2010
Cynhaliwyd cyfarfod mis Mawrth nos Iau, y 18fed yng nghapel Bethania.

Y siaradwr oedd y Parch Harri Parri, a thestun ei sgwrs oedd "Fe'm ganed innau'n fab i fy rhieni".

Fel yr awgryma'r dyfyniad, ymdrin a hanes ei deulu a wnaeth, nid gyda ffeithiau moel a dyddiadau, ond drwy roi portreadau difyr o'i gyndeidiau er mwyn i ni gael dod i'w hadnabod.

Dywedodd i'r teulu fyw ar yr un 'darn o bridd' ym Mhen Llyn ers yr unfed ganrif ar bymtheg, ac wrth iddo sôn am wahanol aelodau o'r teulu, cawsom weld lluniau ohonynt ar y sgrin.

Y bardd cyntaf iddo'i adnabod erioed oedd ei Anti Mary; oedd yn fardd gwlad y cywair lleddf.

Rhwng y Nadolig a'r Calan byddai'n cyfansoddi cerddi coffa i bobl ei bro a fu farw yn ystod y flwyddyn.

Byddai ar ei gorau'n canu am ei theulu, a thynnai ei delweddau o fyd natur a'r Beibl.

Bardd arall oedd ei daid, Gwilym Ynysfor.

Bardd yr awen brudd oedd yntau hefyd. Bu'n gweithio yn y gwaith plwm yn Llanengan, a sefydlodd ef a'i feibion gwmni bysus, sef Cwmni Cae Du, yn 1912.

Cawsom hanes ei Yncl Defi'n nol bws o Huddersfield, gan orfod dysgu ei ddreifio cyn ei yrru adref!

Symudodd llawer o'r gweithwyr plwm i ardal y chwareli, a chanodd ei daid gerdd am fynd i fyw i Garmel. Ei ddiddordebau mawr oedd crefydd a gwleidyddiaeth.

Roedd chwaer taid y siaradwr yn gryn entrepreneur.

Agorodd Mary a'i gŵr gaffi ym Mhorth Ceiriad ar gyfer Saeson! Rhaid oedd cludo'r holl 'ffreshmants' ¬refreshments - i lawr i lan y môr ar gefn beic, gyda Mary ar y mudguard.

Roedd tri llun yng nghartref Harri Parri: y Dr Herber Evans, y Frenhines Victoria, a'r Parch. R.E. Williams, Bangor, Pennsylvania, sef Yncl Robat Mericia.

Bu'n gweithio yn y gwaith plwm, cyn mynd i'r mor a symud i Awstralia.

Dechreuodd bregethu yno, a chafodd eirda i ddod adref gydag ef.

Cafodd ei dderbyn i Goleg Clynnog, yna aeth i'r America a phriodi yno.

Byddai paratoadau astrus yn cael eu gwneud ar gyfer gwasanaethau yn America, tra byddai oedfaon crefyddol Pen Llyn yn dod o'r frest.

Teulu mam y siaradwr oedd y rhai a grybwyllwyd eisoes, a chan ei hochr hi o'r teulu y cafodd ei werthoedd.

Teulu'r stori ffraeth a'r chwedl oedd ochr ei dad, a chan ei dad ddawn i'w hadrodd.

Roedd ei hen-hen daid yn ddyn mawr o gorffolaeth a cheid llawer o chwedlau am ei faint.

Gallai nofio milltir gan gludo dyn mawr ar ei ysgwyddau. Nofiai i Ynysoedd Gwylan i weld ei ddefaid.

Dyn y stori ffraeth oedd ei ewythr Will hefyd.

Bu yn Iwerddon yn ystod y rhyfel. Gyda'i chwiorydd yr oedd yn byw: priododd un ohonynt feddyg y ddafad wyllt.

Roedd tad Harri Parri'n ŵr a gafodd fywyd caled iawn, ond gentleman farmer oedd Yncl Will.

Roedd yn ddyn swil ond a chanddo ddigon o hiwmor; er nad oedd chwerthin yn dod yn rhwydd i bobl Llŷn.

Yncl Will a thad Harri Parri oedd y rhai olaf i wybod 'iaith y brain'. Gan deulu ei dad y cafodd y siaradwr help i fyw efo'r gwerthoedd a gafodd gan deulu ei fam, help i beidio a chymryd bywyd ormod o ddifrif.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Ann Parry Williams, a ddiolchodd i'r Parch Harri Parri, i'r capel am gael cyfarfod yno, i'r Academi am ei nawdd, ac i Nerys John am baratoi'r baned.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy