BBC HomeExplore the BBC

LLUN
21ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Goriad
Rhan o'r brotest yn Bangor Bangor yn protestio
Ebrill 2009
Mae 'na lawer o Fangoriaid yn teimlo'n gryf nad ydy'r ddinas yn cael ei thrin yn deg gan Gyngor Gwynedd.

Daeth nifer sylweddol o drigolion Bangor ynghyd i leisio eu hanfodlonrwydd mewn protest swnllyd ar y Stryd Fawr ar bnawn Sadwrn, Mawrth 21 ain.

Dadl y protestwyr oedd bod Bangor yn cael ei disystyru ar draul trefi ac ardaloedd eraill yng Ngwynedd.

Mae Bangor wedi colli ei Theatr a'i sinema.

Mae llawer o siopau'r Stryd Fawr wedi cau ac yn ôl y protestwyr ychydig iawn o gyfleusterau sydd yna i blant a phobl ifanc.

Mae Bangor yn gallu brolio mai ganddi hi mae'r stryd fawr hira' ym Mhyrdain ac mae'n bwysig i'r stryd fawr honno fod mewn cyflwr graenus a deiniadol i ddenu siopwyr ac ymwelwyr.

Tybed oes bai arnom ni drigolion Bangor am droi cefn ar y Stryd Fawr gan anelu ein ceir yn hytrach am siopau ac archfarchnadoedd cyrion y ddinas? Yn ôl John Wynn Jones, Maer Bangor, cynghorydd Gwynedd a chadeirydd 'Balchder Bangor' y mae pawb yn benderfynol o gyd dynnu a chyd weithio i wella delwedd Bangor ac adfer balchder y cyhoedd yn eu dinas a'i chyfleusterau.

Mewn erthygl yn y 'Daily Post' yn ddiweddar datgelwyd fod Cyngor Gwynedd yn chwilio am arian o Ewrop er mwyn adfywio tair tref yng Ngwynedd - Bangor, Caernarfon a Blaenau Ffestiniog.

Gobeithio yn wir y gwelir gwireddu hyn yn fuan.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy