BBC HomeExplore the BBC

IAU
17eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Goriad
Theatr Gwynedd. Llun: Gaynor Thomas Theatr ac amgueddfa dan fygythiad
Chwefror 2008
Mae dau o sefydliadau pwysicaf Bangor dan fygythiad - Theatr Gwynedd ac Amgueddfa ac Oriel Gwynedd.

Mae pryderon ynglŷn â dyfodol y ddau sefydliad yma wedi'u mynegi'n ddiweddar mewn papurau newydd ac ar y newyddion.

Mae dyfodol y Theatr yn ansicr ac yn ôl pob sôn bydd yn cau yn yr Hydref gyda chanolfan i'r celfyddydau perfformiadol yn cael ei hadeiladu rhywbryd yn y dyfodol.

Byddai cau'r Theatr yn ergyd drom i'r gymuned leol a thu hwnt gan ei bod yn rhan bwysig o fywyd diwylliannol y ddinas ac yn denu cynulleidfaoedd o bob rhan o Wynedd i weld perfformiadau.

Yr un mor ansicr yw dyfodol Amgueddfa ac Oriel Gwynedd. Prifysgol Bangor yw perchennog yr Amgueddfa ond ers blynyddoedd bellach Cyngor Gwynedd sy'n ysgwyddo'r baich ariannol o redeg yr Amgueddfa.

Oherwydd toriadau mawr y flwyddyn nesaf mae'r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd hi'n fwyfwy anodd cefnogi'r Amgueddfa'n ariannol.

Mae cefnogwyr yr Amgueddfa wedi mynegi eu pryder ac yn ôl y Dr John Llewelyn Williams (Cyn-warden Neuadd John Morris Jones), ar ran cyfeillion yr Amgueddfa a'r Oriel, y mae ansicrwydd gwirioneddol ynglŷn â dyfodol yr Oriel sy'n cynnwys hen ddodrefn, casgliadau gwerthfawr a chreiriau archeolegol o bwys.

Byddai colli'r Amgueddfa, sydd wedi bod mewn bodolaeth ers sefydlu'r Brifysgol ym 1884, yn golygu colli rhan bwysig o hanes Bangor a'r Gogledd.

Dyma ddau sefydliad sydd â chysylltiadau agos iawn â'r Brifysgol yma ym Mangor. Tra bo'r Brifysgol yn ehangu ei gorwelion a denu myfyrwyr o bob rhan o'r byd oni ddylai fod yn gwarchod a chefnogi'r sefydliadau hynny o fewn y gymuned a'r ardal leol?

Wedi'r cyfan mae'n bwysig cofio pwy fu'n gyfrifol am sefydlu'r Brifysgol yma yn y Gogledd dros ganrif yn ôl, a glynu wrth rai o'r gwerthoedd hynny oedd yn rhan mor bwysig o'r weledigaeth honno.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy