BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
15fed Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Goriad
Gwennant Pyrs Portread o Gwennant Pyrs
Chwefror 2007
Un o gantorion mwya' Penrhos heb os yw Gwennant Pyrs. Mae'r Arweinydd côr ac enillydd Cân i Gymru yn byw ar Ffordd Crwys gyda'i phriod Gareth ers bron i ugain mlynedd bellach.
Daw Gwennant yn wreiddiol o Lanuwchllyn, ac mae'n mwynhau dychwelyd i'w tharddle i gael llond nosdrul o wynt yr Aran a gweld hen gyfeillion a theulu.

Mae'r gerddoriaeth yn y gwaed, gyda Gwennant yn ferch i D. P. Jones sy'n aelod o Gôr Godre'r Aran ers dros hanner canrif. Ac mae ganddi ddwy ferch ei hun - Mared Haf sy'n ddeunaw a Gwenllian Fflur sy'n naw.

Llwydda Gwennant i droi ei chariad at gerddoriaeth yn fara menyn. Hi yw Pennaeth Adran Gerdd Ysgol David Hughes, Porthaethwy.

Cyn hynny bu'n teithio ysgolion Gwynedd fel athrawes y delyn. Gwennant yw Arweinydd Côr Seiriol, ac yma mae'n sôn am gychwyn y côr hynod boblogaidd: "Ffurfiwyd Parti Seiriol yn yr wythdegau cynnar o ganlyniad i griw o ffrindiau aros i weithio a byw ym Mangor ar ôl gadael y Brifysgol. Tyfodd y parti yn Gôr Seiriol yn 1991. Y flwyddyn honno enillodd y côr y wobr gyntaf ar gystadleuaeth y Côr Cerdd Dant yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Delyn.

"Ers hynny, mae'r côr wedi ennill 7 gwaith ar gystadleuaeth y Côr Cerdd Dant a theirgwaith ar gystadleuaeth y Côr Merched yn y Genedlaethol. Rydym wedi cystadlu yn yr Ŵyl Gerdd Dant yn ogystal dros yr un cyfnod o flynyddoedd ac wedi ennill droeon yno hefyd. Mae'r Côr wedi rhyddhau pedair cryno ddisg ers ei ffurfio; mae'r gerddoriaeth arnynt yn amrywio o Gerdd Dant i Glasurol i weithiau comisiwn gan gyfansoddwyr o Gymru megis Karl Jenkins, Gareth Glyn a Robat Arwyn."

Prysurdeb diwyd yw un o nodweddion cymeriad Gwennant. Ar y foment mae'n trefnu gosodiadau cerdd dant i nifer o blant a phobol ifanc ar gyfer Eisteddfod Yr Urdd.

Yn wir, cerdd dant yw ei hoff fath o gerddoriaeth. Ond nid oes ffiniau i'w phaled seinyddol - mae popeth o Fozart i Eva Cassidy yn atseinio drwy'r tŷ. Ar hyn o bryd mae Gwenant wrthi'n ymarfer Sioe Gerdd gyda disgyblion Ysgol David Hughes 'Camp a Rhemp' a fydd yn cael ei pherfformio fis Chwefror.

Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Gwenant, a'r sgript gan ei chyfeillion a'i chydweithwyr Alwen Derbyshire a Meleri Roberts.

Dyma'r dair a enillodd y wobr 'Gân i Gymru' ym 1992.

Ar gyfer y rhifyn nesaf, mae Gwennant Pyrs wedi dewis Alwen Derbyshire o'r Felinheli. Felly rydym yn chwilio am rywun diddorol ym Mhenrhosgarnedd i'w bortreadu erbyn y rhifyn nesaf. Croeso cynnes i chi gysylltu efo awgrymiadau.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy