BBC HomeExplore the BBC

GWENER
8fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Goriad
Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol Wynebu Her yr £20,000
27 Chwefror 2004
Llwyddodd Bangor lle methodd Penrhosgarnedd. Roedd digon wedi cyrraedd Cyfarfod Cyhoeddus yn Neuadd y Penrhyn i drefnu Pwyllgor Apêl at Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau.

Rai wythnosau ynghynt ym Mhenrhosgarnedd nid oedd digon wedi codi allan i Ysbyty Gwynedd i ffurfio Pwyllgor. Mae Cyngor Pentir wedi trefnu dull arall i ddod â phobl Penrhos at ei gilydd.

Roedd Dafydd Wigley, Trysorydd Pwyllgor Ariannol yr Eisteddfod yn Y Faenol, yn y cyfarfod ym Mangor i egluro'r gofynion i'r 20 ddaeth yno. Gan fod Cyngor Dinas Bangor wedi cytuno i godi £20,000 o'r trethi mae angen bron i £20,000 arall gan bobol Bangor eu hunain.

Nid oedd am fynd o'r cyfarfod heb gael enw cyswllt a phenderfynwyd mai'r Cynghorydd Dewi Llewelyn fyddai hwnnw. Cytunodd dwsin oedd yno i gyfarfod eto i ddewis Swyddogion i'r Pwyllgor. Maent wedi cyfarfod ar 9 Chwefror i wneud hynny ac i drafod syniadau sut i godi'r £20,000.

Cynhaliwyd cyfarfod Y Felinheli ar 5 Chwefror ac mae Pwyllgor wedi ei ddewis. Siân Gwenllian yw'r Cadeirydd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy