BBC HomeExplore the BBC

IAU
7fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Goriad
Golygfa o Fangor Taith Gerdded Mynydd Bangor
Chwefror 2003
Dyma daith gerdded hamddenol o amgylch ardal Bangor.
Hyd - tua 3 awr o gerdded hamddenol.
Man cychwyn - pen uchaf un Stryd y Deon.
Cyfarwyddiadau:
Ewch i ben uchaf Stryd y Deon, rhwng y tai "newydd" ar y chwith a'r maes parcio ar y dde. Ar y dde fe welwch risiau yn anelu i fyny ochr Mynydd Bangor - dilynwch y llwybr hwn, sy'n rhedeg yn gyfochrog â chefn y maes parcio, yr holl ffordd i ben Mynydd Bangor (dyma'r darn mwyaf serth o'r holl daith, felly peidiwch â digalonni!).

Wedi cyrraedd y brig trowch i'r dde ac fe welwch graig sy'n gymharol amlwg yng nghanol y rhedyn a'r tyfiant. Dilynwch y llwybr trwy'r rhedyn at y graig hon am olygfa banoramig sy'n ymestyn o Ben y Gogarth yn y Dwyrain draw y tu hwnt i Ysbyty Gwynedd yn y Gorllewin - chewch chi ddim gwell golygfa o ddinas Bangor yn ei chyfanrwydd.

Anelwch wedyn i gyfeiriad Ysbyty Gwynedd ar hyd crib Mynydd Bangor. Ar ôl cyrraedd man gwastad eithaf sylweddol anelwch am y gornel chwith bellaf ac fe ddowch at lwybr llydan coediog rhwng dwy wal - dilynwch hwn am sbel nes y dowch chi at ffordd sy'n arwain o'r cwrs golff ar y dde at dir Dŵr Cymru ar y chwith.

Croeswch y ffordd a chychwynnwch am i lawr ar hyd llwybr eithaf garw i gyfeiriad Maesgeirchen, hefo'r cwrs golff o boptu ichi. Ar ôl rhyw funud neu ddau cadwch eich llygaid yn agored am giât mochyn ar y dde sy'n arwain at gae (os cyrhaeddwch chi Maesgeirchen rydych wedi ei basio!). Ewch trwy'r giât a dilynwch y llwybr ar draws y cae.

Os ydych wedi dilyn y cyfarwyddiadau'n gywir fe ddylech bellach fod ar Lôn Bopty. Ar ôl mynd trwy'r giât allan o'r cae trowch i'r chwith a dilynwch y ffordd at y gyffordd hefo'r ffordd sy'n dod i fyny o Glan Adda heibio i Ysbyty Minffordd, a throwch i'r chwith eto. Lawr yr allt â chi, ymlaen heibio i'r gyffordd ar y chwith hefo'r ffordd sy'n mynd drwy'r rhyd am Landygai, ac yna ymhen rhyw ganllath fe welwch arwydd llwybr cyhoeddus ar y dde (yn syth bin wedi ichi gerdded o dan y gwifrau trydan).

Ewch drwy'r giât mochyn ac ymlaen am gornel uchaf bellaf y cae (dros y gorwel!) lle mae'r giât, yna'n syth ar draws y cae nesaf at ddarn digon corsiog o dir a giât mochyn arall. Wedi llwyddo i fynd drwy'r giât a heibio'r gors y peth callaf i'w wneud ydi cerdded dros y boncyn o'ch blaen yn hytrach na mynd heibio iddo, a dilyn y ffens ar y dde at giât mochyn arall eto fyth. Fe ddylai fferm Bryn Glas fod i'r dde ohonoch - anelwch at gornel chwith bellaf y cae a chroeswch y gamfa sydd ym môn y clawdd, ac yna dilynwch y clawdd yn syth ymlaen at y ffordd darmac.

Bellach rydych wedi cyrraedd y ffordd sy'n mynd o Minffordd i gyfeiriad Caerhun; croeswch y ffordd ac ewch ar hyd y ffordd goncrid. Ar ôl rhyw ganllath trowch i'r dde ar hyd ffordd sydd â rhimyn o wair i lawr ei chanol a dilynwch hwn nes y dowch at dy ar y dde. O'ch blaen mae garej y tŷ - mae'r llwybr cyhoeddus yn mynd heibio ochr dde'r garej ac yn ei flaen trwy goedlan ac ar draws cae.

Wedi croesi'r cae a mynd drwy'r giât cadwch i'r dde drwy'r coed a heibio i'r boncyn. Fe ddowch at giât arall a llain o dir corsiog iawn y tu hwnt iddo - croeswch hwn ac yna dilynwch y llwybr at dy sy'n edrych draw i gyfeiriad Ysgol Tryfan. Oddi yma fe fyddwch yn cerdded ar hyd lôn y ty ac yna i lawr yr allt am Bryn Llwyd, cyn cyrraedd Ffordd Caernarfon yn y cylchdro sydd gyferbyn ag Allt Coed Mawr.

Bryn Tomos


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy